Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad rheolaethol

  • Cyhoeddwyd
Luke Hart
Disgrifiad o’r llun,

Mae Luke Hart a'i frawd Ryan wedi trefnu grŵp o'r enw CoCo Awareness sy'n cynorthwyo pobl i siarad allan yn erbyn trais dynion yn erbyn merched a phlant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad rheolaethol neu gymhellol mewn perthnasau.

Mae'r ymgyrch - 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' - yn ceisio helpu pobl adnabod arwyddion o reolaeth o fewn perthynas, a'i fod yn ffurf o gam-drin.

Cofnodwyd 9,053 o droseddau rheolaeth drwy orfodaeth gan yr heddlu ledled Cymru a Lloegr y llynedd, ac fe garcharwyd y rhai a erlynwyd am 17 mis ar gyfartaledd.

Mae Luke Hart yn cefnogi ymgyrch y llywodraeth. Fe wnaeth ei dad ladd ei fam a'i chwaer ar ôl iddo fod yn ymddwyn yn rheolaethol am dros 26 mlynedd tuag at y teulu.

'Saethu'

"Roedd fy nhad yn treulio rhan fwyaf o'r amser yn ein bychanu. Pedwar diwrnod ar ôl i ni symud allan o'r tŷ, fe saethodd nhw fesul un gan gynnwys ei hun,"

Yn ôl Luke, roedd ei dad yn defnyddio arian y teulu fel ffordd o'u rheoli.

Ffynhonnell y llun, Luke a Ryan Hart
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Claire Hart a'i merch Charlotte eu saethu ychydig ddyddiau ar ôl iddi adael ei gŵr

"Yn aml doedden ni methu fforddio talu am betrol i adael y tŷ, neu doedd fy mam methu fforddio mynd am baned o goffi gyda'i ffrindiau, felly roedd fy mam yn gaeth i'r tŷ.

"Roedd y trais yn dod allan o nunlle, ond roedd y rheoli wedi bod yn cynyddu ac mae llofruddiaeth yn fath o reolaeth, dyna oedd y cam nesaf yn y daith," meddai.

Bellach mae Luke a'i frawd Ryan wedi trefnu grŵp o'r enw CoCo Awareness sy'n cynorthwyo pobl i siarad allan yn erbyn trais dynion yn erbyn merched a phlant.

'Codi ymwybyddiaeth'

Mae ymddygiad rheolaethol wedi bod yn anghyfreithlon ers 2015.

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: "Ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yw'r cam nesaf yn ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.

"Tan yn ddiweddar, doedd rheolaeth drwy orfodaeth ddim yn cael rhyw lawer o sylw.

"Gyda chymorth rhyfeddol goroeswyr a phartneriaid, rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth o'r ymddygiad gwenwynig hwn ac yn grymuso mwy o bobl i ddod ymlaen."