O Wcráin i gefn gwlad Cymru: 'Rydym ni'n ddiogel fan hyn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae dros 200 o ffoaduriaid o Wcráin yn ailgydio yn eu bywydau yn un o wersylloedd yr Urdd

Ers deufis, mae 'na gymuned unigryw o ffoaduriaid o Wcráin wedi tyfu mewn rhan fach o gefn gwlad Cymru.

Erbyn hyn, mae dros 200 o bobl yn aros yn un o wersylloedd yr Urdd drwy gynllun Llywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o'u helpu i ail-leoli i lety mwy hir dymor dros yr wythnosau nesaf.

Ond mae 'na bryderon wedi codi dros faint o lety hir dymor addas sydd ar gael, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod adnoddau dan straen.

Mae'r teuluoedd yng ngwersyll yr Urdd wedi ffoi o bob rhan o Wcráin, gyda'r ieuengaf yn wyth mis oed a'r hynaf yn eu 70au cynnar.

Mae 'na ysgol i'r tua 100 o blant yma, gweithgareddau amrywiol a help ymarferol i oedolion fel dod o hyd i waith a llenwi ffurflenni pwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Marta Burak yn hiraethu am berthnasau agos sy'n dal yn ei mamwlad, gan gynnwys ei mab sy'n offeiriad

I Marta Burak, 64, cyn athrawes a wnaeth ffoi yma gyda'i merch a'i hwyrion, mae'n noddfa o'r erchyllterau'n ôl adref, er eu bod yn gweld eisiau ei theulu y bu'n rhaid iddi adael ar ôl yn ofnadwy.

"Dyw hi ddim yn hawdd i fi achos mae hanner fy nghalon ar ôl yn Wcráin - fy mab, fy merch yng nghyfraith a fy mab yng nghyfraith - tad fy wyrion," meddai, dan deimlad.

"Maen nhw [eu hwyrion] yn gweld eu heisiau bob dydd. Maen nhw methu siarad â nhw yn iawn achos maen nhw'n dechrau crio.

"Ond rydym ni'n ddiogel fan hyn, dyna'r peth pwysicaf i ni. Yn syth ar ôl i ni gyrraedd yma, roeddwn ni'n teimlo hynny, teimlo'n ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kateryna Halenda ac Olena Andrshchuk yng Nghymru gyda'u plant ers rhyw bythefnos

Mae sŵn plant yn chwerthin a chwarae gyda staff y gwersyll a Mr Urdd wrth gwrs yn cario drwy'r safle.

Mae wedi bod yn fendith i Olena Andrshchuk a Kateryna Halenda - dwy fam a gyrhaeddodd yma tua phythefnos yn ôl gyda'u plant ifanc ar ôl gorfod gadael eu gŵyr adref.

Mae'n fyd gwahanol i orfod cysgodi dan ddaear, a'r plant yn gofyn a oedden nhw'n mynd i farw.

"Mae fy mhlant yn hapus. Maen nhw'n mynd i'r ysgol bob dydd, rydym ni'n mynd ar daith bob wythnos, felly maen nhw'n hapus ac maen nhw'n teimlo'n ddiogel yma," meddai Kateryna, sydd â dau o feibion pedair a naw oed.

Roedd Olena yn cytuno, gan ddweud bod ei mab a'i merch hi yn gallu "cymdeithasu a gwneud pob math o weithgareddau".

"Wrth gwrs maen nhw'n gweld eisiau eu tad, eu mam-gu a'u tad-cu, ond dyma'r realiti gorau sydd gennym ni."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r plant yn cael hwyl gyda staff y gwersyll

Yn ôl Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd, mae hi'n bwysig fod y plant yn cael sefydlogrwydd yn ystod eu cyfnod yn y ganolfan.

"Mae'n bwysig bod y plant yma yn cael normalrwydd tra bod nhw mewn sefyllfa gwbl anghyffredin iddyn nhw," meddai.

"Mae'r broses o fynd i'r ysgol bob dydd, cael addysg, cael gweithgareddau hamdden yn bwysig iawn iddyn nhw, a hefyd i'w rhieni nhw."

Oedi'r cynllun noddi yng Nghymru

Erbyn hyn mae 2,500 o bobl sydd â noddwyr yng Nghymru wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys 776 sydd wedi'u noddi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Ond am y tro, mae'r cynllun wedi cau i geisiadau newydd

Mae cadeirydd Pwyllgor y Senedd yn poeni am "argaeledd llety priodol" i gartrefu ffoaduriaid o Wcráin.

Yn ôl yr AS Llafur John Griffiths gallai'r prinder arwain at ffoaduriaid yn mynd yn sownd mewn canolfannau croeso a gyda theuluoedd sy'n cynnig llety dros dro.

Mewn ymateb, mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Jane Hutt wedi cydnabod bod adnoddau ar gyfer tai ac ailsefydlu ffoaduriaid o Wcráin "dan straen."

Disgrifiad o’r llun,

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn cwrdd â'r ffoaduriaid yn y gwersyll

"Ni wedi bod yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar roi popeth yn ei le i groesawu pobl," meddai'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar ei ymweliad â gwersyll yr Urdd.

"Nawr ry'n ni'n canolbwyntio ar helpu pobl i symud ymlaen. Mae pobl yn mynd i fyw yma yng Nghymru, ledled Cymru.

"Mae teuluoedd ledled Cymru yn fodlon croesawu pobl. Ry'n ni'n canolbwyntio ar wneud y cyswllt rhwng pobl fan hyn a phobl sy'n fodlon croesawu nhw.

"Mae pethau yn eu lle i gael mwy o bobl i symud mas o'r ganolfan a chreu mwy o le i groesawu mwy o bobl i ddod o Wcráin.

"Ni wedi oedi'r rhaglen achos mae'r cynllun wedi bod mor llwyddiannus. Mae lot mwy o bobl eisiau dod i Gymru nag oedden ni'n disgwyl ar y dechrau.

"Beth ry'n ni eisiau gwneud nawr yw bod yn glir bod llwybr 'da ni i bobl symud ymlaen a chreu mwy o gyfleoedd i bobl ddod i mewn."

'Mae Cymru wedi gwneud cymaint i ni'

Fe wnaeth mam-gu a thad-cu Anhelina ac Iryna Matusevych, efeilliaid 22 oed, fynnu bod nhw'n gadael Wcráin wrth i'r ymladd gyrraedd eu tref i'r de o'r brifddinas, Kiyv.

Cyrhaeddon nhw'r gwersyll ar 4 Mai. Dyw BBC Cymru ddim yn enwi'r gwersyll am resymau diogelwch.

"Nid ein penderfyniad ni oedd gadael. Fe wnaeth ein mam-gu a'n tad-cu benderfynu bod angen i ni adael. Doeddwn i ddim am eu gadael nhw," meddai Iryna.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anhelina ac Iryna Matusevych yn awyddus i ddangos eu gwerthfawrogiad i bobl Cymru cyn symud ymlaen gyda'u hastudiaethau

"Fe wedes i wrth fy mam-gu bod yn well gen i farw gyda hi na byw rhywle arall yn Ewrop ond fe wedodd hi wrtha i fy mod i'n ferch fach ffôl! Ond roedd hynny'n dangos caredigrwydd wrth gwrs."

"Roedd hi am ein hachub ni," ychwanegodd ei chwaer, Anhelina.

Mae'r ddwy yn gobeithio cael lle i astudio cwrs meistr yn Rhydychen, ond roedden nhw'n awyddus yn gyntaf i ddangos eu gwerthfawrogiad i bobl Cymru.

"Byddwn ni ddim yn gadael Cymru am sbel," ychwanegodd Anhelina.

"Maen nhw wedi gwneud cymaint i ni ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r help. Rydym ni wedi bod yn dysgu'r iaith ac am y diwylliant."