Nodi pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
ysbytai
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw israddio gwasanaethau yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg pan fydd yr ysbyty newydd yn barod

Am y tro cyntaf, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi manylion pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd i orllewin Cymru.

Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi ei gynllunio.

Y bwriad yw israddio gwasanaethau yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, a defnyddio'r ysbytai hynny fel rhai cymunedol lleol - gyda gwasanaethau triniaeth ddydd, therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys.

Mae yna fwriad hefyd i sefydlu unedau mân anafiadau yn Llwynhelyg a Glangwili, os ydy'r ysbyty newydd yn cael ei adeiladu.

Daw'r cyhoeddiad wythnos cyn y bydd y Senedd yn trafod deiseb i warchod gwasanaethau brys 24 awr yn Llwynhelyg.

Mae dros 10,000 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau ysbytai'r gorllewin.

Ble mae'r safleoedd?

Y pum safle posib sydd wedi eu clustnodi gan y bwrdd iechyd ydy:

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Kiln Park sydd i'r gogledd o orsaf drenau Arberth ac wrth ymyl yr A478, tua chilomedr i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Arberth;

  • Tir amaethyddol i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf sydd rhwng yr A40 i'r gogledd, Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf i'r dwyrain a Gerddi'r Ffynnon i'r de;

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Tŷ Newydd, sydd i'r dwyrain o safle Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf a chanol tref Hendy-gwyn ar Daf;

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Penllyne Court rhwng Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ychydig y tu allan i Bwll-Trap. Mae'r safle rhwng llinell rheilffordd Abertawe-Hwlffordd i'r gogledd a'r A40 i'r de;

  • Tir amaethyddol sydd wrth ymyl cyffordd yr A40 a'r A477 yn Sanclêr, rhwng yr A4066 (Ffordd Dinbych-y-pysgod) i'r de, pentref Pwll-Trap i'r gogledd a'r A40 i'r gorllewin.

Ddim yn barod tan 2029

Yr wythnos nesaf bydd pobl o gymunedau ar draws y tair sir yn cael y cyfle i "sgorio'r" pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd.

Y gweithdy ar ddydd Mawrth 28 Mehefin fydd yr ail o ddwy sesiwn dechnegol gydag aelodau o'r cyhoedd, staff a phartneriaid.

Pwrpas y gweithdy cyntaf, ym mis Mai, oedd llunio saith maen prawf technegol i'w defnyddio yn y broses sgorio.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cais busnes am £1.3bn ar gyfer yr ysbyty newydd ac at welliannau ar safleoedd eraill.

Does dim disgwyl i'r ysbyty newydd agor cyn 2029.

Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â safle'r ysbyty newydd.

Pynciau cysylltiedig