Aros 11 awr am ambiwlans ac 16 awr arall cyn cael gwely
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Gwm Gwendraeth yn galw am atebion ar ôl i'w mam oedrannus dreulio 11 awr yn aros am ambiwlans tra'n gorwedd ar lawr ei chartre' ar ôl cwympo.
Ar ôl hynny fe dreuliodd y diweddar Dona Beynon, 92 o Bont-iets, 16 awr yn yr ambiwlans y tu fas i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn aros am wely, cyn cael ei symud i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Mae'r teulu'n dweud nad yw ymddiheuriad yn ddigon ac yn galw am "esboniad llawn".
Mae'r galw ar y gwasanaeth ambiwlans yn "parhau i fod yn uchel" meddai llefarydd, ond maent yn ceisio "datrys y problemau cymhleth a hirsefydlog".
Mae Elsbeth Jones o Lanarthne yn dweud fod ei mam wedi cael anaf i'w phen ac wedi torri ei braich a'i choes chwith ar ôl cwympo yn lolfa ei chartref ym Mhont-iets.
Fe wnaeth y teulu alw am ambiwlans ar unwaith ond bu'n rhaid disgwyl am 11 awr cyn i un gyrraedd a doedd dim trefniadau yn y cyfamser o ran lleddfu poen.
Ar ôl cyrraedd Ysbyty Glangwili fe fu Mrs Beynon yng nghefn ambiwlans am 16 awr arall, cyn cael gwybod fod gwely ar gael iddi yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, 30 milltir i ffwrdd.
Bu hi farw ar 5 Ebrill, 2022.
Mae'r teulu wedi cysylltu â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gwyno ac yn holi sut mae'r gwasanaeth yn blaenoriaethu galwadau.
'Rhai yn gorfod aros am hir'
Dywedodd Wendy Herbert, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (Dros Dro): "Hoffem anfon ein cydymdeimlad diffuant at deulu Mrs Beynon ac mae'n ddrwg iawn gennym glywed am eu profiad a deallwn y byddai hynny wedi bod yn ofidus.
"Mae'r galw ar ein gwasanaeth ambiwlans yn parhau i fod yn uchel ac mae hyn ynghyd ag oedi gormodol wrth drosglwyddo cleifion i'r ysbyty yn golygu bod rhai cleifion yn y gymuned yn aros yn hir iawn am ein cymorth - gall fod yn rhai oriau ar adegau o alw eithafol.
"Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd Lleol i ddatrys y problemau cymhleth a hirsefydlog ar draws y system gofal heb ei drefnu.
"Byddem yn gwahodd teulu Mrs Beynon i gysylltu â ni'n uniongyrchol drwy ein tîm Gweithio i Wella fel y gallwn ddeall eu profiad yn well."
Mae merch arall Mrs Beynon, Mair Walters, yn disgrifio ei mam fel person "cryf, cryf ei meddwl, yn hapus ac yn hoffi ymuno â gweithgareddau yn lleol a mynd i'r cwrdd a chymryd rhan fawr yn be oedd yn digwydd gyda'r wyrion a'r gorwyrion".
Roedd y teulu yn bwysig iawn iddi, meddai, ond maen nhw'n dweud bod yr "atgofion annwyl amdani wedi eu chwalu ar ôl hyn i gyd".
Mae'r ddwy chwaer yn dweud eu bod yn anhapus hefyd â'r gofal gafodd eu mam yn Ysbyty Llwynhelyg.
Tra roedd hi yno fe gafodd Mrs Beynon brawf positif am Covid ac yn ôl Elsbeth Jones doedd dim modd ymweld â hi am 10 diwrnod.
Yn ogystal doedd dim trefniadau digonol i gysylltu â hi dros y ffon neu ar Facebook, ac os oedden nhw'n llwyddo i gael amser penodedig i gysylltu â'u mam roeddent am oriau ar y ffôn yn trio cael ateb er iddyn nhw gadw at yr amser penodedig.
"Roedd hyn yn annioddefol o greulon ac ansensitif i fenyw 92 oed oedd eisoes wedi dioddef cymaint," medden nhw.
Yn ôl y teulu roedd yna "ddiwylliant o ddiffyg parch a thanseilio urddas y claf" yn yr ysbyty.
Maen nhw hefyd yn dweud bod meddwl eu mam yn glir pan gyrhaeddodd Llwynhelyg ond bod y staff oedd ar ddyletswydd y noson honno yn credu ei bod hi wedi drysu am ei bod hi yn siarad yn ei hiaith gyntaf sef Cymraeg.
Mewn ymateb dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio Bwrdd iechyd Hywel Dda: "Ry'n ni methu â gwneud sylw ar achosion cleifion unigol, ond ry'n ni bob amser yn flin i glywed am unrhyw achlysur lle mae cleifion yn teimlo nad ydyn nhw wedi derbyn ansawdd gofal addas."
Codi llais er mwyn eraill
Mae'r teulu hefyd wedi cysylltu â'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Mrs Beynon.
"Fodd bynnag, ni allwn wneud sylw ar amgylchiadau achosion unigol ac mae hyn yn fater i'r bwrdd iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans i ymchwilio iddo."
Mae Elsbeth Jones a Mair Walters yn dweud eu bod nhw yn disgwyl atebion llawn i'w cwynion er mwyn sicrhau na fydd teuluoedd eraill yn wynebu'r un torcalon.
"Mae 'na deuluoedd eraill mas fan 'na - falle bod nifer o deuluoedd yn teimlo allwn ni byth a'i 'neud e, neu bod dim llais 'dan nhw i 'neud e, neu fel bydde mam yn gweud, 'gad e fod nawr, gad e fod'.
"Ond fwya' o 'gad e fod' sy'n digwydd, fwya' o gelwyddau gewn ni.
"Dyw hi ddim yn deg i ddweud fod pob dim yn iawn pan bod e'n amlwg, all e byth bod yn waeth, 'na'r gwir amdani."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021