Aryan Ghoniya: Cynnal angladd bachgen 13 oed fu farw mewn afon

  • Cyhoeddwyd
AryanFfynhonnell y llun, Llun teulu

Cafodd angladd bachgen ysgol 13 oed fu farw mewn afon ei gynnal ddydd Sadwrn.

Cafwyd hyd i gorff Aryan Ghoniya yn Afon Taf yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Gyrrwyd y cerbyd a oedd yn cludo'r arch heibio i Ysgol Gynradd Danescourt ac Ysgol Gyfun Radur - yr ysgolion y bu'n eu mynychu - cyn gwasanaeth yn Amlosgfa Thornhill ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal yr Eglwys Newydd brynhawn Mawrth am fod criw o blant wedi mynd i Afon Taf a bod un bachgen ar goll.

Cafwyd hyd i gorff Aryan Ghoniya yn yr afon rhyw awr yn ddiweddarach yn dilyn chwiliad gan yr heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu.

Cafodd balwnau eu rhyddhau ar hyd yr afon amser cinio dydd Mercher, yn agos at y fan lle daethpwyd o hyd i Aryan.

Mae teyrngedau hefyd wedi eu gadael yng Ngerddi Windsor yn Radur lle mae baneri India a Chymru wedi eu chwifio ar yr hanner mast.

Roedd mam Aryan, Hina, ei dad Jitendra, a'i chwaer Naviya ymhlith perthnasau i ymweld â'r gerddi yn gynharach yn yr wythnos i weld y teyrngedau.

Ffynhonnell y llun, David Cargill
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhieni Aryan, Jitendra a Hina, a'i chwaer Naviya eu bod wedi'u "llorio" gan ei golled

Dywedodd y teulu bod Aryan yn "wych gyda mathemateg, yn dda ar bopeth academaidd".

"Roedd yn gariadus gyda phersonoliaeth gynnes oedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod.

"Ni fydd diwrnod pan na fyddwn yn ei golli, a bydd yn ein calonnau am byth."

Mewn datganiad pellach ddydd Iau, dywedodd y teulu: "Rydym yn erfyn yn gryf ar bob rhiant i egluro wrth eu plant am y peryglon o chwarae mewn afonydd.

"Ni fyddwn yn dymuno i unrhyw riant fynd drwy'r drasiedi yr ydym yn mynd drwyddi."

Pynciau cysylltiedig