Cymro yn ennill ras 100m Prydain am y tro cyntaf mewn 53 mlynedd
- Cyhoeddwyd
![Azu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14169/production/_125618228_gettyimages-1405082321.jpg)
Jeremiah Azu: Un o'r Cymry cyflymaf erioed?
Mae Cymro wedi ennill y ras 100m ym Mhencampwriaethau Athletau'r DU am y tro cyntaf mewn 53 mlynedd.
Roedd buddugoliaeth Jeremiah Azu - a redodd y ras mewn 9.90 eiliad - yn un o'r canlyniadau mwyaf annisgwyl ym Manceinion.
Daeth y gwibiwr 21 oed o Gaerdydd i'r brig yn erbyn gwrthwynebwyr cryf, gan gynnwys y rhedwyr Olympaidd Reece Prescod a Zharnel Hughes.
Dyma'r tro cyntaf i Gymro ennill y ras ers 1969.
![Hannah Brier](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0CD1/production/_125618230_gettyimages-1241504299.jpg)
Hannah Brier ydy'r Gymraes gyflymaf erioed yn dilyn ei ras 100m ym Manceinion
Daeth hyn ar ôl i Hannah Brier redeg yr amser cyflymaf erioed gan Gymraes yn ras 100m y merched.
Rhedodd yr athletwr o Abertawe y rhagras ym Manceinion mewn amser o 11.33 eiliad.
Bydd Brier yn ymuno â'i brawd Joe, rhedwr 400m, yn nhîm Cymru yn y Gemau Gymanwlad yn Birmingham yn ddiweddarach yn yr haf.
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2022