'Neb yn gwybod mod i'n cymryd canabis cyn mynd i'r gwaith'

Dyn ar stryd yn cymryd fêp
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jon Leeder yn dweud ei fod yn fêpio canabis "ychydig o weithiau yn y bore, ychydig o weithiau yn y pnawn ac ychydig o weithiau fin nos"

  • Cyhoeddwyd

Bob bore mae Jon Leeder yn deffro, yn cael brecwast ac yn cymryd canabis cyn gadael ei gartref i fynd i'w waith mewn swyddfa.

Mae Jon, 41, yn cymryd canabis meddygol i'w helpu gyda gorbryder, ond nes iddo gytuno i siarad â'r BBC, doedd neb yn gwybod ei fod yn ei gymryd.

"Ro'n i ychydig yn nerfus... Ydyn nhw'n mynd i ddechrau meddwl 'mod i'n dod i'r gwaith yn stoned?" meddai.

Mae yna amcangyfrif bod degau o filoedd o bobl yn y DU â phresgripsiwn preifat ar gyfer canabis.

Mae'r GIG yn dweud bod peryglon canabis meddygol yn aneglur, tra bod seiciatrydd blaenllaw yn rhybuddio "nad oes unrhyw dreialon sy'n dangos eu bod yn effeithiol", ac mai "gwneud arian ydy'r hyn sy'n bennaf y tu ôl i'r presgripsiynau".

Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Dywedodd yr Athro Sir Robin Murray - cyn-lywydd Cymdeithas Seiciatrig Ewrop - wrth y BBC: "Mae clinigau preifat yn rhoi canabis cryf ar bresgripsiwn i bobl sydd â chyflyrau seiciatrig fel iselder neu PTSD."

Ychwanegodd bod "llawer o dystiolaeth y gallai canabis cryf wneud cyflyrau yn waeth, ac arwain at deimladau o hunanladdiad".

Dim ond ymgynghorydd arbenigol all roi canabis fel presgripsiwn, ac mae angen tystiolaeth nad yw triniaethau eraill wedi gweithio.

Prin iawn yw'r achlysuron ble mae canabis wedi cael ei roi ar bresgripsiwn ar y GIG ers i'r gyfraith newid i'w ganiatáu am resymau meddygol yn 2018.

Ond mae'r diwydiant preifat yn tyfu, ac fe ddywedodd mwyafrif y bobl mae'r BBC wedi siarad â nhw eu bod yn gwario ychydig gannoedd o bunnoedd pob mis er mwyn cael canabis.

Jon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jon yn nerfus am ddweud wrth ei gyflogwr ei fod yn cymryd canabis meddygol

Mae rhai cleifion, fel Jon, yn dweud bod canabis meddygol yn rhoi'r math o fuddion iddyn nhw yr oedden nhw'n gobeithio ei gael gan feddyginiaeth fel tabledi gwrth-iselder.

Yn ôl cleifion maen nhw'n gorfod meddwl yn ofalus cyn mynd y tu ôl i lyw car, mynd drwy fesurau diogelwch mewn maes awyr neu hyd yn oed i far neu glwb, a chofio mynd â'u presgripsiwn gyda nhw i osgoi cael eu cyhuddo o drosedd.

Mae rhai yn dweud eu bod yn byw mewn ofn o gael eu stopio gan yr heddlu, cael eu diswyddo neu hyd yn oed golli mynediad at eu plant oherwydd yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "stigma" ynghlwm â chanabis.

Dywedodd un claf wrth y BBC iddi gael llythyr gan gymydog yn cwyno am arogl canabis yn dod o'i fflat.

"Roedd gen i ofn," meddai Kat Turner, 26, o Gaerdydd, sy'n dweud ei bod yn rhoi clustogau o flaen y drws i geisio atal yr arogl.

Mae Kat yn cymryd canabis ar ôl cael diagnosis o anhwylder niwrolegol gweithredol, ond gall y cyffur gael ei roi ar bresgripsiwn ar gyfer pethau fel PTSD, OCD, gorbryder ac iselder.

Jon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jon yn un o ddegau o filoedd o bobl yn y DU sydd â phresgripsiwn preifat ar gyfer canabis

Mae Jon, o Gaerffili, yn cyfaddef y bu'n nerfus am ddweud wrth ei gyflogwr ei fod yn cymryd canabis meddygol.

"Mewn ffilmiau a rhaglenni comedi mae'n ddoniol dangos pobl [sy'n cymryd canabis] yn bod ychydig yn drwsgl a diog, ac eisiau bwyta pethau," meddai.

"Ond mewn gwirionedd nid fel yna mae hi. Mae o jest yn fy nhawelu ryw ychydig."

Mae'n gweithio i gyflogwr mawr, ac yn dweud eu bod yn gefnogol iawn, ond eu bod wedi gofyn iddo beidio enwi ei gyflogwr.

Mae cleifion a chlinigau sy'n rhoi canabis ar bresgripsiwn yn dweud nad oes llawer o ymwybyddiaeth y gall canabis fod yn gyfreithlon gyda phresgripsiwn, ac roedd Jon yn poeni y gallai pobl gael camargraff.

Cafodd ganabis meddygol am y tro cyntaf pan wnaeth ei iechyd meddwl "dorri lawr" yn hwyr yn ei 30au.

50,000 o brescripsiynau preifat

Yn ôl Jon, sy'n ddiweddar wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac sy'n aros am ddiagnosis posib o ADHD, cafodd bresgripsiwn ar gyfer "blodyn canabis" - y term sydd wedi ei roi gan y diwydiant am flaguryn canabis.

Un amod iddo gael mynediad at driniaeth ydy ei fod yn cael y canabis mewn fêp arbennig, yn hytrach na'i ysmygu.

Mae ffigyrau yn awgrymu bod dros 50,000 o bresgripsiynau canabis preifat erbyn Gorffennaf 2024, gyda disgwyl bod y ffigwr wedi cynyddu ers hynny.

Kat yn ei hystafell fyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kat yn dweud iddi gael gwybod gan staff ysbyty y byddai'n rhaid iddi adael y safle i gymryd ei chanabis meddygol, er ei bod yn dioddef ffitiau

Yn ogystal â phryder gan gymdogion am ei defnydd o ganabis, dywedodd Kat nad oedd wedi cael mynd â'i chanabis meddygol i'r ysbyty yn 2024.

Mae'n dweud bod ei chyflwr niwrolegol yn golygu ei bod yn gallu "colli rheolaeth lwyr" ar ei chorff, gan ddioddef tics a ffitiau.

Pan gafodd ddiagnosis gyntaf, cafodd wybod mai ei gobaith gorau o wella oedd dechrau triniaeth o fewn "tair i bedair wythnos."

Ond dair blynedd yn ddiweddarach roedd yn dal i aros i ddechrau ei thriniaeth, a dywedodd Kat ei bod yn dibynnu ar y canabis i reoli'r tics fel y gallai wneud pethau fel torri bwyd a brwsio ei dannedd.

'Mor annheg'

Cafodd apwyntiad mewnol tair wythnos mewn uned arbenigol y GIG ym Mryste, ond er iddi ddweud wrth staff am y canabis cyn cyrraedd, cafodd wybod wrth gyrraedd yr ysbyty na fyddai'n cael ei chanabis yno.

"Roedden nhw'n awgrymu y gallai'r feddyginiaeth fod yn anghyfreithlon ac na fydden nhw'n gallu ei ganiatáu y tu mewn," meddai Kat.

"Ar ôl trafodaeth hir lle cefais fy ngwneud i deimlo fel troseddwr, roedd yn rhaid i mi wneud y penderfyniad i adael.

"Roedd yn teimlo mor annheg."

Mewn llythyr, mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste wedi ymddiheuro am brofiad Kat, ond yn dweud mai hi oedd y claf cyntaf iddyn nhw ddod ar ei draws oedd eisiau fêp canabis, a'u bod yn diweddaru eu polisi i adlewyrchu'r hyn y dylid ei wneud petai'n digwydd eto.

Shash
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shash yn dweud ei bod wedi gallu defnyddio ei fêp canabis mewn gigs a chlybiau nos

Yn ôl cleifion canabis meddygol, maen nhw'n gweld gwell dealltwriaeth o hynny bellach mewn gigs a chlybiau nos.

Dywedodd Shash Appan, sy'n gwario £200 y mis ar ei phresgripsiwn canabis ar gyfer PTSD a fibromyalgia, ei bod wedi gallu mynd â'i chanabis gyda hi i wyliau cerddorol a chyngherddau.

Yn ôl Shash, 29, mae pobl yn aml yn "edrych yn od" arni wrth iddi fynd allan i'r ardal ysmygu ar noson allan, ond pan mae swyddogion diogelwch yn dod ati, mae hi wedi gallu egluro heb broblemau ei bod yn cymryd canabis meddygol.

Mae'n dweud, mewn byd delfrydol na fyddai eisiau gorfod cymryd y canabis, ond mae'n credu mai dyna'r opsiwn lleiaf niweidiol iddi gyda'i symptomau.

"Dwi'n gwybod i rai pobl bod yr effeithiau cychwynnol yn gallu cynnwys yr angen i fwyta neu chwerthin, ond mae'n llawer gwell gen i hynny na'r sgil-effeithiau posib fel iselder, neu deimlo'n gysglyd gyda opioidau."

David Howells
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr David Howells, mae nifer yn ofni y gallen nhw gael eu barnu am ddefnyddio canabis

Mae Dr David Howells yn un o'r ychydig feddygon sy'n rhoi canabis ar bresgripsiwn, ac yn dweud yn y GIG ei fod yn aml wedi gweld y niwed y gall canabis ei wneud i gleifion sydd â hanes o seicosis.

Ond mae'r cyn-ymgynghorydd seiciatryddol gyda'r GIG yn credu bod yna dystiolaeth gynyddol i gefnogi'r defnydd ohono ar gyfer cyflyrau eraill.

"Mae'r dystiolaeth fwyaf ar gyfer gorbryder a phoen," meddai.

Yn ôl Dr Howells mae niferoedd ei gleifion preifat ei hun wedi cynyddu, ond mae nifer yn ofni y gallen nhw gael eu barnu am ddefnyddio canabis.

"Pryderon am gael eu stopio [gan yr heddlu], neu beth ddylen nhw ei ddweud wrth gyflogwr ydy rhai o'r prif bryderon gan gleifion sy'n dod i'n clinig ni," meddai.

Yn ôl Dr Howells mae staff y clinig wedi gorfod ymyrryd ar ran claf gyda chyflogwyr, cymdeithasau tai, llysoedd teulu a'r heddlu - gan ddisgrifio'r ddealltwriaeth o'r gyfraith yn ymwneud â chanabis meddygol fel "loteri côd post".

'Cynnyrch meddygol cyfreithlon'

Dywedodd pennaeth clinig arall ei fod wedi gorfod ymyrryd yn ddiweddar ar ran teithwyr ar awyren o'r DU ar ôl i heddlu arfog gael eu galw ar fwrdd yr awyren yn dilyn adroddiadau o "arogl canabis".

"Doedden nhw ddim yn gadael i'r awyren hedfan nes i'r feddyginiaeth gael ei chymryd oddi ar y cleifion, a'i roi yn ôl ar ôl cyrraedd pen y daith," meddai Jon Robson o glinig canabis ar-lein Mamedica.

"Fyddai hynny ddim yn digwydd gydag unrhyw fath arall o feddyginiaeth ar bresgripsiwn."

Mae gyrru o dan ddylanwad canabis yn anghyfreithlon, ond mae yna eithriad meddygol os ydy cleifion wedi dilyn y dôs cywir, a ddim yn teimlo ei fod yn amharu ar eu gallu i yrru.

"Rydyn ni bob amser yn cynghori cleifion i gymryd eu meddyginiaeth allan yn y potiau neu'r pecynnau, sydd â'u henwau neu eu manylion arnyn nhw," meddai Dr Howells.

"Mae hynny'n dangos eu bod yn cymryd cynnyrch meddygol cyfreithlon."

Mae Cyngor Penaethiaid yr Heddlu yn dweud bod canllawiau newydd yn cael eu llunio i "helpu i leihau unrhyw amwysedd i luoedd heddlu ynglŷn â chanabis meddygol, ond mae'n pwysleisio bod unrhyw swyddog "o fewn eu hawliau" i atal gyrrwr os ydyn nhw'n amau eu bod yn anniogel.

Mae'r GIG wedi dweud nad yw peryglon cynnyrch canabis "yn eglur ar hyn o bryd", ac mae'r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau yn darparu adroddiad i Lywodraeth y DU ar ddefnydd meddygol canabis, fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

Mae gwybodaeth a chymorth ynglŷn ag iechyd meddwl ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig