Codi pris teithiau tacsi'n hollti barn yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Shân Rowlands yn y car tacsi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shân Rowlands yn berchen ar gwmni tacsi ac yn dweud bod cynnydd mewn prisiau yn "codi embaras"

Mae rhai o yrwyr tacsi Sir Ddinbych yn poeni y bydd cwsmeriaid oedrannus a bregus yn stopio ffonio oherwydd cynnydd mewn prisiau.

Fel sawl awdurdod arall yng Nghymru, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i godi prisiau teithiau tacsi er mwyn helpu gyrwyr gyda'r cynnydd mewn costau tanwydd.

Bydd pris cychwynnol y daith yn uwch, a'r gost fesul milltir yn cynyddu hefyd.

Ond, mae'r penderfyniad wedi hollti barn, gyda chwmnïau'n poeni y bydd pobl yn osgoi defnyddio'r gwasanaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Shân Rowlands yn poeni y bydd ei chwsmeriaid bregus yn defnyddio llai o dacsis oherwydd y prisiau uchel

Mae Shân Rowlands yn berchen ar cwmni tacsi yn Llanelwy ac mae ganddi bryderon am bobl fregus sydd angen cael eu cludo i'r ysbyty.

"Mae'r taxi meter yn cael ei osod gan y sir, bob sir yn y wlad, a ma' nhw'n codi'r tariff rwan a mae'r pris jyst yn ridiculous," dywedodd.

"Odd o'n dechre ar £3 - dyna'r starting price - a ma' hwnna'n rhedeg am y filltir cynta'.

"Mae'n bedair milltir o Lanelwy i Ysbyty Glan Clwyd, mae'r bobl yn methu parcio, felly ma' nhw'n cael tacsi."

Dywedodd bod y siwrnai'n costio £8.70 ar hyn o bryd. Ond, wedi 1 Gorffennaf, bydd y pris yn cyrraedd bron i £12.

Pwyllgor Trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych wnaeth y penderfyniad i godi'r prisiau, gan fod rhai o yrwyr tacsi y sir wedi gofyn am y cynnydd i fynd i'r afael â chynnydd mewn costau byw.

Dyw'r sefyllfa ddim yn unigryw i Sir Ddinbych. Mae awdurdodau ar draws Cymru eisoes wedi neu yn y broses o newid uchafswm pris mesuryddion.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwyafrif gyrwyr tacsis Caerdydd o blaid cynyddu'r prisiau ar fesuryddion

Yr wythnos ddiwethaf, fe benderfynodd Cyngor Caerdydd godi'r prisiau a mwyafrif y gyrwyr o blaid hynny.

Ond i ardaloedd mwy gwledig fel yn Sir Ddinbych, mae pobl yn fwy tebygol o ddibynnu ar wasanaethau am deithiau byr ar gyfer apwyntiadau ysbyty neu i fynd i siopa.

'Embaras'

Pryder Shân yw y bydd ei chwsmeriaid sy'n dibynnu ar ei gwasanaeth yn cadw draw.

"'Dan ni'n ffrindiau hefo'n cwsmeriaid, 'dan ni'n edrych ar eu holau nhw, 'dan ni'n mynd â'r siopa i fewn i'r tŷ," ychwanegodd.

"Mae'n worry achos 'dw i'n mynd i fod yn embarrassed yn gofyn iddyn nhw am £3 yn 'chwaneg."

"Maen nhw'n trio'n helpu ni hefo codiad y pris mewn tanwydd a phethe, ond mae o'n ormod."

Bydd y cyngor yn mynd ati i gasglu gwybodaeth ychwanegol yn dilyn ymgynghoriad, a bydd adolygiad mewn 6 mis.

Pynciau cysylltiedig