Ffoaduriaid o Wcráin yn aros i symud o ganolfannau croeso
- Cyhoeddwyd
Dywed gwirfoddolwyr fod cannoedd o ffoaduriaid o Wcráin yn gorfod aros yn hirach na'r disgwyl mewn canolfannau croeso, yn methu â chofrestru eu plant yn yr ysgol na dod o hyd i waith heb gyfeiriad parhaol.
Ar hyn o bryd mae cynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru ar "saib," gyda chanolfannau croeso "yn llawn".
Dywedodd ffoaduriaid mewn un ganolfan eu bod yn credu bod tua 300 o bobl o Wcráin wedi cyrraedd y safle ers mis Ebrill, ond dim ond "dau deulu" sydd wedi dod o hyd i gartrefi.
Y tro diwethaf i Olya weld ei gŵr oedd yn yr orsaf reilffordd yn Kyiv. Roedd wedi cael gorchymyn i ymladd, a gofynnodd iddi fynd â'u mab pump oed Maxim i Gymru i ddod o hyd i ddiogelwch ac addysg.
Fodd bynnag, mae materion sy'n ymwneud â symud ffoaduriaid fel hi ymlaen o ganolfannau croeso yn golygu nad yw'n gallu dod o hyd i swydd na chofrestru Maxim ar gyfer yr ysgol.
Fe gymrodd dridiau i Olya a Maxim gyrraedd Cymru, lle mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn dros 1,000 o ffoaduriaid o Wcráin fel uwch-noddwr.
Mae'r rhai sy'n cyrraedd yn cael eu hanfon i ganolfannau croeso, megis gwestai, hyd nes y gellir dod o hyd i lety mwy parhaol i'r preswylwyr.
Mae pump canolfan o'r fath wedi agor, gyda chweched i agor yr wythnos hon.
Fodd bynnag, mae pryderon y gallai llawer o ffoaduriaid fod yn y llety dros dro am y tymor hwy, gyda phrinder tai yn llesteirio'r broses.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i lety "tymor hwy" i ffoaduriaid, naill ai drwy deuluoedd sy'n cynnig llety neu opsiynau eraill.
Awydd i 'symud ymlaen'
Dywedodd Olya, 38, wrth BBC Cymru ei bod yn hynod ddiolchgar am y cymorth, ond ei bod yn awyddus i "symud 'mlaen" ar ôl treulio chwe wythnos mewn canolfan groeso.
"Y rheswm des i yma yw fy mod eisiau i fy mhlentyn fynd i'r ysgol," meddai.
"Nawr mae angen man preswyl parhaol, a dim ond wedyn all fy mhlentyn fynd i'r ysgol. Ar ôl i fy mhlentyn fynd i'r ysgol, fe alla i gael swydd.
"Rydw i wir eisiau dechrau gweithio i allu helpu fy nheulu a arhosodd yn Wcráin.
"Mae'r sefyllfa economaidd yno yn anodd iawn ar hyn o bryd, ac mae angen help arnyn nhw."
Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, Maryna Farrell: "Mae 'na gyfran o bobl wedi byw yn y canolfannau croeso ers dechrau Ebrill - ers i'r cynllun ddechrau.
"Y ddealltwriaeth oedd y bydden nhw'n cael eu prosesu i'w lle eu hunain, neu i aros gyda theulu o fewn dau i dri mis.
"Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dal yn y canolfannau croeso."
'Gwirionedd caled'
Dywedodd Ms Farrell fod angen gwneud mwy i annog teuluoedd a landlordiaid preifat i gymryd rhan.
"Rwy'n credu y bydd angen i lawer mwy o landlordiaid ddod ymlaen a derbyn y ffaith efallai nad oes gan y bobl hyn hanes credyd, efallai nad oes ganddynt warantwr ac efallai na fyddant yn gallu fforddio prisiau'r farchnad," meddai.
"Rwy'n credu'n onest fod y llywodraeth wedi portreadu'r cynllun cyfan i bobl Wcráin fel proses hawdd iawn.
"Dwi ddim yn meddwl bod llawer ohonyn nhw'n deall gwirionedd caled pa mor anodd y gallai fod [i ddod o hyd i dŷ].
"Pan fyddwch chi'n meddwl am deulu gyda phlentyn oedran ysgol, dydyn nhw ddim yn gallu mynd i'r ysgol oherwydd nad oes ganddyn nhw le preswyl.
"Nid yw ysgol yn mynd i dderbyn rhywun sy'n byw mewn gwesty.
"Fe fydd yn dod yn broblem, dwi'n meddwl, yn enwedig wrth i ni fynd mewn i fis Medi."
Mae Kristina, 47, yn ystyried ei hun yn un o drigolion gwreiddiol y ganolfan groeso ar ôl cyrraedd yno ym mis Ebrill.
Mae bellach yn gartref i tua 300 o drigolion ond roedd hi a'i mab ymhlith y naw preswylydd cyntaf.
Gwnaeth gwirfoddolwyr iddi deimlo "cymaint o groeso," ar unwaith, gan gynnig archebu bwyd iddi pan gyrhaeddodd yn hwyr y noson gyntaf.
Fel Olya, dywedodd fod ei theulu yn hynod ddiolchgar, ond ar ôl dau fis yn byw gydag eraill, eu bod yn awyddus i symud ymlaen.
"Rhaid i ni aros a bod yn amyneddgar," meddai.
"O'n canolfan groeso dim ond dau deulu sydd â llety.
"Rydym wedi gwneud cais am le rydym eisiau byw. Ysgrifennais, er enghraifft, Caerdydd oherwydd bod fy merch a'm mab yn fyfyrwyr prifysgol ac rwyf am iddynt barhau â'u haddysg."
'Blaenoriaeth'
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am eu helpu i "symud ymlaen o ran llety tai, ond hefyd rydym yn gofyn i deuluoedd sy'n medru lletya i ddod ymlaen".
"Yn amlwg mae yna lety rhent preifat - mae rhai yn gwneud eu trefniadau eu hunain," meddai.
"Dyma'r flaenoriaeth ar hyn o bryd oherwydd, wrth gwrs, mae gennym ni fwy o ffoaduriaid yn dod ymlaen sydd wedi cael fisas o dan ein cynllun uwch-noddwyr ac mae angen i ni eu lletya yn ein canolfannau croeso hefyd."
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau "wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi pobol sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin a darparu noddfa a diogelwch yng Nghymru".
"Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddod o hyd i bobl a'u paru â'r llety sydd ar gael, ac i geisio goresgyn unrhyw heriau," meddai llefarydd.
Gellir gwylio rhaglen BBC Wales Live ar iPlayer
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022