Pryderon bod cyfrifon Llywodraeth Cymru saith mis yn hwyr
- Cyhoeddwyd
Dyw Llywodraeth Cymru heb gyflwyno eu cyfrifon ar gyfer y llynedd, ac maen nhw felly saith mis ar ei hôl hi o ran cwrdd â'r gofyn cyfreithiol.
Dyw'r union reswm ddim yn eglur, ond mae un Aelod o'r Senedd wedi honni mai tâl sylweddol sy'n ddyledus (payout) gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr oedi.
Ddydd Mercher clywodd Senedd Cymru nad oes gwybodaeth am pryd fydd y ddogfen, sy'n cynnwys manylion am sut y mae gweinidogion wedi gwario arian yn ystod 2020/21, yn cael ei chyhoeddi.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag archwilwyr.
Roedd hi'n ofynnol i weinidogion gwblhau eu cyfrifon cyn Tachwedd 2021.
'Gallai'r mater wynebu achos cyfreithiol'
Dywed Mark Isherwood ar ran Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd bod y grŵp trawsbleidiol wedi cael gwybod yn ystod haf y llynedd y byddai'r cyfrifon yn hwyrach nag arfer.
Ddiwedd Tachwedd, yn ôl adroddiadau, bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru hysbysu Archwilio Cymru o ddigwyddiad a allai achosi oedi.
"Dyw hi ddim yn bosib i ni drafod hyn gad nad yw'n wybodaeth gyhoeddus ac ry'n yn cael ar ddeall y gallai'r mater wynebu achos cyfreithiol," meddid.
Ond mae un o aelodau'r pwyllgor, Natasha Asghar o'r Blaid Geidwadol, yn honni bod yna oedi "oherwydd tâl sylweddol sy'n ddyledus gan Lywodraeth Cymru".
Dywedodd Mr Isherwood wrth y Senedd "nad yw'n glir" pryd fydd y cyfrifon yn dod i law ac ychwanegodd bod yr oedi yn tanseilio gwaith y pwyllgor - mae'r pwyllgor yn craffu ar gyfrifon nifer o gyrff cyhoeddus.
Dyw'r pwyllgor, meddai, ddim am i hyn fod yn gynsail ar gyfer y dyfodol ac mae'r cyfrifon yn cynnwys gwariant yn ystod y pandemig - "mater sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd".
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysgrifennydd parhaol, sy'n arwain gweision sifil Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru i ddatrys materion sy'n weddill".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022