Cyhoeddi'r pedwar yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Stephen, Joe, Ben a SophieFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Stephen Bale, Joe Healy, Sophie Tuckwood a Ben Ó Ceallaigh

Mae'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022 wedi eu henwi.

Cafodd 18 o bobl o Gymru a thu hwnt eu cyfweld ar gyfer y gystadleuaeth, sy'n cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Y pedwar a ddaeth i'r brig oedd Stephen Bale o Fagwyr, Joe Healy o Gaerdydd, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Yn ôl beirniaid y rownd gynderfynol - Cyril Jones, Elwyn Hughes ac Angharad Prys - roedd y safon yn uchel eleni eto, a gallai tua wyth o'r ymgeiswyr fod wedi bod yn deilwng o gyrraedd y rownd derfynol.

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst.

Pwy yw'r pedwar?

Stephen BaleFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Bale yn gyn-ohebydd rygbi i bapurau newydd yn Llundain ac ar draws de Cymru, ac yn wreiddiol o Gastell-nedd

Yn wreiddiol o ardal Castell-nedd, mae Stephen Bale, sy'n gyn-ohebydd rygbi, bellach yn byw ym Magwyr, Sir Fynwy.

Roedd Stephen wastad yn teimlo fod rhywbeth pwysig ar goll o beidio siarad Cymraeg.

Dechreuodd ddysgu'r iaith tua diwedd y 70au ond oherwydd prysurdeb ei swydd, ar ôl ymddeol y gwnaeth Stephen gydio'n iawn yn y dysgu.

Ers cyrraedd lefel uwch, mae wedi cefnogi dysgwyr eraill drwy'r Prosiect Siarad yng Ngwent, ac mae'n ymddiriedolwr gyda'r fenter iaith leol ac yn gwirfoddoli yn y ganolfan Gymraeg.

Mae'n cael ei ysbrydoli gan y posibiliadau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ardal Sir Fynwy, ac mae'n awyddus i barhau i ddysgu a chefnogi dysgwyr eraill yn y dyfodol.

Joe HealyFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Healy, sy'n wreiddiol o Wimbledon, yn gwbl hyderus yn defnyddio'r Gymraeg ac yn ei siarad gyda chyd-weithwyr a ffrindiau

Yng Nghaerdydd mae Joe Healy yn byw, ar ôl symud yno o'i gartref gwreiddiol yn Wimbledon.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018, ac erbyn hyn mae'n ei siarad yn gwbl hyderus, gan ei defnyddio yn gymdeithasol ac yn y gwaith.

Mae hefyd wedi mynd ati i gefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.

Mae Joe yn teimlo angerdd dros y Gymraeg a Chymru, ac mae ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth.

Ei obaith yw parhau i ddefnyddio'r iaith, a'i gweld yn ffynnu yn y dyfodol.

Ben Ó CeallaighFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Ben Ó Ceallaigh ddim yn gyfarwydd â'r iaith o gwbl pan ddaeth i fyw i Gymru o Iwerddon

O Iwerddon y daw Ben Ó Ceallaigh yn wreiddiol. Er nad oedd yn gwybod gair o Gymraeg pan ddaeth i fyw yng Nghymru, roedd yn darlithio yn yr iaith ymhen blwyddyn.

Ymunodd â gwersi Dysgu Cymraeg yn ystod haf 2021, ac ers hynny mae wedi bod yn dysgu sawl gwaith yr wythnos yn Aberystwyth.

Mae'n mwynhau defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac wrth ei waith, ac yn mwynhau annog eraill i fynd ati i ddysgu.

Mae ganddo bodlediad o'r enw HEFYD, ac ynddo mae wedi trafod y cysylltiad rhwng yr argyfwng hinsawdd ac argyfwng ieithoedd lleiafrifol byd.

Sophie Tuckwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Tuckwood o Nottingham yn wreiddiol ac yn fam i ddau o blant bach

Yn Hwlffordd mae Sophie Tuckwood yn byw gyda'i theulu ar ôl symud yno o Nottingham.

Ar ôl bod i sesiynau i rieni a phlant yn yr ardal, fe benderfynodd Sophie gofrestru ar gwrs Cymraeg i'r Teulu gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro am ei bod eisiau i'w phlant gael addysg Gymraeg.

Erbyn hyn, mae'n dilyn cwrs gradd meistr mewn ieithyddiaeth ac yn dysgu eraill yn lleol.

Mae wedi llwyddo i ysbrydoli ei theulu a phobl ar draws Sir Benfro i fynd ati i ddysgu hefyd.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn am 15:00, ddydd Mercher 3 Awst.