Dyn o America yn dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Efallai y bydd unrhyw Gymro Cymraeg sy'n cyfarfod ag Oliver Llewelyn yn credu ei fod newydd gyrraedd America o Abertawe. Mae'n siarad Cymraeg gydag acen ddeheuol ond nid yw Oliver erioed wedi byw yng Nghymru.
Mae Oliver yn athro cemeg mewn ysgol uwchradd ac yn byw yng nghefn gwlad Maryland, awr o daith o DC ac mae wedi fy ngwahodd i draw a minnau yn byw yn America i sgwrsio ag o.
Cafodd Oliver ei fagu yng ngogledd Lloegr a symudodd i'r Unol Daleithiau gyda'i wraig Eidalaidd bum mlynedd yn ôl.
Roedd tad-cu Oliver yn dod o Gymru ac er ei fod yn dweud bod y Gymraeg wedi marw ymhlith ei deulu roedd Oliver wastad wedi eisiau dysgu'r iaith.
Felly pan darodd y pandemig penderfynodd fod yr amser wedi dod.
Er mai unwaith yn unig y mae wedi ymweld â Chymru a hynny pan yn blentyn, mewn llai na dwy flynedd mae Oliver wedi dysgu Cymraeg yn rhugl.
'Eisiau dysgu iaith y teulu'
"Es i Gaerdydd unwaith i wylio gêm rygbi gyda fy nhad-cu, tua ugain mlynedd yn ôl - mae fy nhad-cu yn dod o Lansawel yn wreiddiol," meddai Oliver.
"Pan o'n i'n tyfu lan, dwi'n cofio fy nhad-cu yn dysgu fi sut i ddweud 'chydig o bethau yn Gymraeg, ond Saesneg oedd iaith y teulu.
"Pan ddechreuodd y cyfnod clo 'ma welais i rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol - roedd rhywun yn siarad am ei phrofiad hi o ddysgu Cymraeg. Ac o'n i'n meddwl bod lot o amser ar fy nwylo a'm mod i wastad wedi mo'yn dysgu Cymraeg ac felly dyma feddwl beth am ddechrau nawr?"
Dechreuodd Oliver gwrs ar-lein, a datblygodd pethau yn gyflym.
"O'n i'n treulio o leia' dwy awr bob dydd yn gweithio ar yr iaith, a hefyd yn cael sgyrsiau gyda phobl ar-lein," meddai.
Yr hyn sy'n fy nharo i wrth siarad gyda Oliver yw ei fod hefyd yn siarad gydag acen gref iawn o'r de.
"Oedd diddordeb gyda fi mewn sut maen nhw'n siarad yr iaith yn y de - o'n i wir eisiau dysgu yr iaith oedd yn arfer cael ei siarad gan fy nheulu ac mae'r teulu yn dod o dde Cymru," meddai.
"Dw i'n teimlo fel Cymro go iawn, sydd yn rhyfedd gan bo' fi erioed wedi byw yng Nghymru, ond dw i'n teimlo fel bo' fi wedi atgyfodi'r cysylltiad rhwng fy nheulu â Chymru."
Cymdeithas Gymraeg Washington DC
Fe wnaeth y pandemig newid cymaint o'n bywydau cymdeithasol, ac mae dysgu iaith hyd yn oed yn fwy o her pan na allwch chi ymarfer wyneb yn wyneb, ond roedd Oliver yn cadw at amserlen reolaidd o sgwrsio â phobl ar-lein.
"Mae'n anodd pan ti'n byw yn yr Unol Daleithiau, ond mae 'na bobl o gwmpas sydd yn siarad Cymraeg, felly mae'n rhaid ffindio nhw," meddai.
Mae'n aelod o gymdeithas Gymraeg Washington DC, sy'n cynnal cylch siarad unwaith y mis.
Diane Owen sy'n rhedeg y grŵp ac meddai: "Mae grŵp sgwrsio Washington DC wedi bodoli ers 2010. Mae'n hynod o bwysig i bobl allu cyfarfod a siarad yn Gymraeg - 'dan ni wedi creu cymuned, a Chymraeg yw iaith y gymuned."
Americanwraig yw Diane, ac fel Oliver, mae Diane wedi dysgu Cymraeg yn rhugl.
"Mae Oliver yn seren," meddai Diane. "Sa i'n gallu credu pa mor gloi mae o wedi dysgu'r iaith, a dwi'n genfigennus o'i acen o!"
'Ni gyd yn gwneud camgymeriadau'
Mae siarad gyda Oliver yn ddiddorol iawn - mae ei eirfa yn hynod o eang. Dywed Oliver ei fod yn fater o hyder.
"Dwi'n 'nabod lot o bobl sydd wedi tyfu lan yng Nghymru ac wedi bod yn dysgu Cymraeg, ond s'dim hyder gyda nhw. Maen nhw'n becso am dreigladau, maen nhw'n becso am gamgymeriadau.
"Fi wastad yn dweud fy mod yn siarad Saesneg yn rhugl, ond dw i wastad yn gwneud camgymeriadau pan fi'n siarad Saesneg.
"Felly yn fy marn i, does neb yn gallu siarad Cymraeg yn berffaith, ni gyd yn gwneud camgymeriadau.
"Ar y dechrau, dechreuais i siarad mor aml â phosib heb fecso am wneud camgymeriadau a fi dal yn gwneud yr un peth, ond os ti mo'yn dysgu unrhyw iaith, maen rhaid i ti jyst siarad yr iaith heb gorfeddwl am gamgymeriadau dw i'n credu."
Yn eironig, mae Oliver yn credu efallai mai'r ffaith ei fod yn byw miloedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru sydd wedi gwneud dysgu Cymraeg yn haws.
"Does 'na neb o'm cwmpas i sydd yn gallu beirniadu sut dwi'n siarad yr iaith," meddai.
"Mae tafodieithoedd yn rhan o'r iaith a hanes yr iaith, felly s'dim ots be mae'r llyfr yn dweud - ar y strydoedd, mae pobl yn siarad yn wahanol.
"Dwi'n gobeithio bydd 'na lai o bwyslais ar yr iaith safonol yn y dyfodol achos y peth pwysicaf yw bod yr iaith yn cael ei siarad."
'Angen rhaglenni i ddysgwyr'
Mae Oliver yn gwylio'r teledu, yn gwrando ar y radio, ac yn darllen Cymraeg ond dywed y gall y cyfryngau Cymraeg fod yn anodd i ddysgwyr.
"Dw i'n gwrando ar Ifan Jones Evans ar Radio Cymru, dw i'n gwrando hefyd ar Steffan Crocker, bach o Rownd a Rownd a Cefn Gwlad.
Dywed ei fod yn trio gwylio S4C yn wythnosol.
"Dw i'n meddwl buasai'n syniad da i greu mwy o raglenni ar gyfer dysgwyr, gyda'r iaith yn cael ei siarad yn araf.
"Dw i'n 'nabod dysgwyr sydd yn dweud bod nhw ddim yn gallu deall unrhyw beth ar S4C oherwydd bod pobl yn siarad mor gloi - felly falle ni angen rhaglenni sydd yn haws i ddysgwyr i'w deall."
'Cwestiwn o gymhelliant'
Mae ymrwymiad Oliver i'r iaith mor fawr fel ei fod bellach yn dysgu dosbarth Cymraeg unwaith yr wythnos i Americanwyr.
Beth felly yw cyngor Oliver i ddysgwyr?
"Mae'n gwestiwn o gymhelliant. Os ti mo'yn dysgu iaith a ti'n fodlon gwneud yr ymdrech, mae'n bosib dysgu.
"Ddwy flynedd yn ôl, o'n i ddim yn gallu dweud unrhyw beth heblaw 'noswaith dda' a 'bore da', ond o'n i wir eisiau dysgu'r iaith, felly dyna beth oedd yn gwthio fi ymlaen."
Mae gwraig Oliver yn Eidales ac felly mae o hefyd wedi dysgu Eidaleg yn rhugl.
Mae Oliver yn bwriadu siarad Cymraeg â'i blant yn y dyfodol.
"Nawr, mae'r iaith yn rhan o fy mywyd - dw i ffaelu dychmygu fy mywyd heb y Gymraeg," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021