Prawf Cyntaf: De Affrica 32-29 Cymru

  • Cyhoeddwyd
ZammitFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Rees-Zammit yn tawelu'r dorf yn munudau cyntaf y gêm

Wrth i'r cloc gyrraedd yr 80 munud roedd hi'n edrych fel petai Cymru wedi sicrhau gêm gyfartal ond roedd yna ddiweddglo dramatig i'r prawf cyntaf yn Ne Affrica.

Dim ond tri munud oedd ar y cloc pan gollodd y tîm cartref y bêl ar ôl ei thaflu i'r lein

Llwyddodd Cymru i wrth ymosod yn gyflym gyda dwylo cyflym gan Nick Tompkins a George North yn rhyddhau Louis Rees-Zammit redodd bron o'r llinell hanner i groesi yn y gornel.

Doedd De Affrica ddim wedi dod dros y sioc honno pan sgoriodd Dan Biggar gyda chic adlam ryfeddol o hanner ei hun.

Ar ôl y chwarter awr roedd pac y tîm cartref yn dangos eu cryfder gan ennill ciciau cosb. Fe fethodd Elton Jantjies gyda'r gyntaf ond fe aeth yr ail, o safle mwy canolog, yn syth drwy'r pyst.

Dyma bwyntiau cyntaf De Affrica o flaen eu cefnogwyr eu hunain ers pedair blynedd.

Tawelu'r dorf

Fe enillodd y Cymry gic gosb o fewn eu hanner eu hunain, ac ar ôl llwyddiant Biggar gyda'r gic adlam fe roedd e yn ddigon hyderus i anelu am y pyst o bellter.

Er bod De Affrica yn ymosod yn gyson cynyddu wnaeth mantais yr ymwelwyr. Er bod Cymru wedi bod yn flêr o dafliad i'r lein fe lwyddodd Nick Tompkins i daclo Elton Jantjies.

Llwyddodd Rees-Zammit i gyrraedd y bêl rydd o flaen y cefnwr Damian Willemse a chroesi am ei ail gais. Ychwanegodd Biggar y ddau bwynt gyda'r trosiad gan dawelu'r dorf ymhellach.

Yn dilyn tacl rymus ar Faf de Clerk i atal cais ar ôl 38 o funudau cafodd Biggar ei anfon i'r gell gosb am ddeg munud. Penderfynodd y barnwr ei fod wedi arafu'r bêl yn ardal y gwrthdaro.

Cymru felly 18-3 ar y blaen ar yr egwyl yn Stadiwm Loftus Versfeld, Pretoria.

Dechreuodd De Affrica yr ail hanner yn ymosod yn galed yn hanner Cymru ac fe gawson nhw eu gwobrwyo pan lwyddodd y blaenwyr i helpu'r bachwr Nbonmabi dros y llinell. Cafodd y cais ei drosi gan Willemse.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cais cyntaf De Affrica

Ar ôl i Thomas Francis gael ei gludo o'r maes gydag anaf, sgoriodd y tîm cartre eto gyda'r eilydd Malcom Marx yn croesi.

Wedi'r ail ddechrau fe enillodd y Cymry gic gosb ac fe ymestynnodd Biggar fantais yr ymwelwyr i chwe phwynt.

Fe gollodd De Affrica eu momentwm gyda chicio blêr gan De Clerk. Fe gafodd hynny ei gosbi wrth i Gymru ennill cic gosb arall. Triphwynt arall i Biggar.

Blaenwyr grymus yn cau'r bwlch

Ond roedd y tîm cartre yn benderfynol o gau'r bwlch ac roedd y blaenwyr yn rhy gryf i'r amddiffyn gan ryddhau Chelin Kolbe yr asgellwr i sgorio yn y gornel. Caeodd Willmese y bwlch i ddau bwynt gyda'r trosiad.

Yn y cyfamser roedd yna ergyd arall i Gymru pan gafodd Alun Wyn Jones ei anfon i'r gell gosb.

Dyna oedd hanes arwr yr hanner cyntaf Rees-Zammit hefyd chwe munud o'r diwedd. Wrth geisio atal De Affrica rhag croesi'r llinell fe gafodd ei gosbi am arafu'r bêl.

Cafodd cais cosb ei ddyfarnu i'r tîm cartre gan olygu eu bod ar y blaen am y tro cyntaf o 29-24.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y blaen asgellwr Tommy Reffell argraff yn ei gêm gyntaf

Roedd Rhys Carre yn euog o droseddu hefyd yn ôl y dyfarnwr ac aeth blaenwr Caerdydd i ymuno gyda Wyn Jones a Rees-Zammit yn y gell gosb.

Ond yn rhyfeddol roedd hynny yn sbardun i'r 12 crys Coch. Ciciodd Biggar gic gosb i'r ystlys ac o'r llinell sgoriodd Dewi Lake i'w gwneud hi'n gyfartal. Methodd Biggar y trosiad o drech blewyn.

Gyda'r cloc heibio'r wyth deg munud, camgymeriad gan Biggar yn ildio cic gosb arweiniodd at fuddugoliaeth De Affrica gyda Willemse yn sicrhau'r triphwynt oedd ei angen.

Siom i Gymru ond fe fydd y perfformiad yn un fydd yn rhoi hyder i dîm Wayne Pivac y gallen nhw greu argraff yn y ddau brawf nesaf.