Ralf Little a'i hen daid fu'n chwarae dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Ralf Little wedi sôn am y wefr o ddarganfod bod ei hen daid wedi chwarae pêl-droed dros Gymru - a'i siom am iddo roi'r gorau i'r gêm oherwydd crefydd.
Roedd yr actor, ddaeth i enwogrwydd gyntaf yn y gyfres gomedi poblogaidd The Royle Family, yn cofio clywed si am gyn-chwaraewr rhyngwladol yn ei goeden deulu - ond doedd ganddo ddim llawer mwy o wybodaeth na hynny.
Ond pan aeth i ogledd ddwyrain Cymru i hel ei achau ar gyfer y rhaglen Who Do You Think You Are? fe gafodd wybod yr holl hanes - a chael gafael yn y gwpan enillodd ei hen daid.
Dros ganrif yn ôl, roedd Albert Lockley yn byw yn Y Waun ac yn gweithio gerllaw ym mhwll glo Bryncinallt. Fel oedd yn gyffredin o fewn y diwydiant ar y pryd, yn ei amser hamdden roedd o'n chwarae gêm oedd wedi dod yn boblogaidd yn yr ardal - pêl-droed.
Ei glwb lleol oedd Chirk FC, neu The Colliers, gafodd ei sefydlu yn 1876.
O fewn degawd roedd yn dîm llwyddiannus iawn fel eglurodd yr Athro Martin Johnes, o Brifysgol Abertawe, wrth Ralph Little ar y rhaglen: "Fan yma oedd un o'r llefydd cynta' ym Mhrydain lle wnaeth y gêm ddod yn boblogaidd iawn.
"Tydi'r Waun ddim yn le mawr, ond yn y cyfnod yma roedd yn un o'r prif glybiau pêl-droed yng Nghymru ac roedd chwarae i Chirk FC yn golygu rhywbeth."
Fe ddangosodd yr hanesydd adroddiad papur newydd o 1894 pan enillodd Chirk FC Gwpan Cymru, a hynny am y pumed tro mewn llai na degawd. Y sgôr yn erbyn Westminster Rovers oedd 2-0 - gyda'r ymosodwr Albert Lockley yn sgorio'r gôl gyntaf.
Meddai Ralf Little ar ôl darllen yr adroddiad: "Mae'n ddoniol - mae hyn wedi digwydd dros 100 mlynedd yn ôl a dwi wirioneddol wrth fy modd yn darllen am fy hen daid yn ennill y gwpan yma ac yn sgorio."
Aeth chwe aelod o'r tîm yn eu blaenau i gynrychioli Cymru, yn cynnwys Albert Lockley ac un o sêr cyntaf y byd pêl-droed Billy Meredith.
Ond daeth tro ar fyd yn sgil Diwygiad 1904/05, pan wnaeth adfywiad crefyddol effeithio ar nifer o agweddau o fywyd y Cymry, gan gynnwys chwaraeon.
Roedd gemau pêl-droed yn waith y diafol yn ôl rhai pregethwyr a byddai addoli Duw yn well defnydd o amser unrhyw un na chicio pêl. Yn ystod y cyfnod roedd yn ffasiynol i ymwrthod â gweithgareddau 'pechadurus' yn gyhoeddus, gyda rhai hyd yn oed yn llosgi eu crysau pêl-droed.
Roedd hen daid Ralf yn un wnaeth gyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau i'r gêm yn 1904 yn ôl adroddiad yn y wasg, er mawr siom i'r actor.
Meddai ar y rhaglen: "Wnaeth o roi'r gorau i chwarae pêl-droed oherwydd crefydd. Fel anffyddiwr, alla i ddim egluro pa mor drist ydi hynny i mi!"
Daeth y diwygiad i ben ar ôl dim ond 18 mis, ac mae'n debyg bod agwedd Albert Lockley tuag at bêl-droed wedi meirioli rhywfaint hefyd.
Ar y rhaglen mae ei or-ŵyr yn darllen adroddiad papur newydd o'r Llangollen Advertiser yn 1905 am gystadleuaeth ciciau o'r smotyn gafodd ei gynnal mewn parti gardd yn Y Waun. Un o'r rhai gafodd wobr oedd neb llai nag Albert Lockley.