Cefnogaeth i'r Prif Weinidog Boris Johnson yn fwyfwy 'tenau'
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogaeth i'r Prif Weinidog Boris Johnson ymhlith ASau Ceidwadol yn edrych yn fwyfwy "tenau", yn ôl arweinydd y blaid yn Senedd Cymru.
Dywedodd Andrew RT Davies bod "modd dadlau" a oedd gan y Prif Weinidog gefnogaeth mwyafrif o ASau Torïaidd, ac os na, dywedodd fod newid yn "anochel".
Daw ar ôl i drydydd AS o Gymru ymddiswyddo dros arweinyddiaeth Mr Johnson.
Nos Fercher, dywedodd James Davies, AS Dyffryn Clwyd, ei fod yn "amhosib amddiffyn" y Prif Weinidog yn wyneb yr "honiadau niweidiol", a'i bod yn "glir nad yw'r blaid na'r wlad yn rheoladwy" ganddo.
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart ymhlith grŵp o weinidogion cabinet sydd wedi dweud wrth y Prif Weinidog Boris Johnson i ymddiswyddo, mae'r BBC yn deall.
Ddydd Mawrth, fe ymddiswyddodd y Canghellor Rishi Sunak ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid o gabinet Boris Johnson.
Fe gamodd y ddau i lawr mewn ymateb i'r ffordd wnaeth Boris Johnson ymdrin â honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, cyn-Ddirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr.
Cafwyd degau o ymddiswyddiadau ers nos Fawrth, gan gynnwys y ddau o'r cabinet.
Mae sawl AS Ceidwadol o Gymru wedi galw'n gyhoeddus ar i Boris Johnson ymddiswyddo.
Mae Craig Williams AS wedi rhoi'r gorau i fod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i'r Trysorlys.
Dywedodd AS Maldwyn ei bod hi'n "amhosib" i'r prif weinidog barhau i "ailadeiladu ymddiriedaeth gyda'r cyhoedd" i gyflawni "polisïau da".
Cyn hynny roedd Fay Jones, AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, wedi dweud bod digwyddiadau diweddar yn cadarnhau "bod yna erydiad dwfn o ymddiriedaeth a gwedduster wrth galon y llywodraeth".
Dywedodd ei fod yn peri tristwch iddi weld ei phlaid "wedi'i chlwyfo cymaint" ac nad yw bellach yn credu bod y prif weinidog "yn gallu trwsio'r clwyfau hynny".
Ac mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi galw ar y prif weinidog i ymddiswyddo "er lles y wlad".
Dywedodd Mr Crabb fod ymddiriedaeth yn y llywodraeth "wedi bod yn lleihau fis ar ôl mis wrth i'r materion dadleuol bentyrru."
Dywedodd yr AS Ceidwadol dros Breseli Penfro fod digwyddiadau diweddar "wedi tynnu sylw unwaith eto ar yr un cwestiynau sylfaenol am onestrwydd sydd wedi aros uwchben y prif weinidog drwy'r flwyddyn".
'Difrod'
Wrth siarad ar bodlediad BBC Walescast, dywedodd Andrew RT Davies fod llawer o'r "difrod" wedi ei wneud gan Downing Street.
Dywedodd Mr Davies: "Mae'n anodd iawn. Does dim tanamcangyfrif beth sydd wedi digwydd yn y 24 awr ddiwethaf.
"Ond rwy'n credu'n gryf os yw prif weinidog a phlaid yn ennill mandad mewn etholiad cyffredinol, mae'r mandad hwnnw am dymor llawn a mater i'r blaid a'r arweinydd hwnnw yw mynd i mewn i'r etholiad cyffredinol nesaf i hyrwyddo yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn y llywodraeth a'r hyn y byddem yn ceisio ei wneud i sicrhau mandad arall gan y wlad.
"Fodd bynnag, os na all y prif weinidog hwnnw ennyn hyder y mwyafrif yn y senedd yna yn amlwg mae amser yr unigolyn penodol hwnnw wedi dod i ben.
"Dyna sydd gan Boris Johnson i'w brofi nawr yn Nhŷ'r Cyffredin a dwi'n meddwl bod modd dadlau am hynny," ychwanegodd.
'Bwrw ymlaen'
Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Cymru ei fod yn "fusnes fel arfer" yn Swyddfa Cymru er gwaethaf yr ymddiswyddiadau o gabinet Llywodraeth y DU.
Mynnodd Simon Hart fod Swyddfa Cymru yn "bwrw ymlaen â... buddsoddiad ar draws pob rhan o Gymru".
Yn ystod Cwestiynau Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wrth Mr Hart bod "dau weinidog cabinet wedi mynd, ei PPS [Ysgrifennydd Preifat Seneddol] wedi mynd, nid yw'n fusnes fel arfer, nac ydyw? Pryd fydd e [Hart] yn mynd?"
Anogodd Ysgrifennydd Cymru i Ms Saville Roberts "ymuno â ni yn yr ymdrech i wella bywydau pobl Cymru, yn hytrach na defnyddio cyfleoedd gwleidyddol eithaf rhad i wneud y gwrthwyneb".
Nid yw Mr Hart wedi gwneud sylw penodol am arweinyddiaeth Boris Johnson yn dilyn yr ymddiswyddiadau.
Yn yr ad-drefnu dilynol o'r cabinet, penodwyd:
Nadhim Zahawi yn ganghellor, gan adael ei swydd fel ysgrifennydd addysg;
Steve Barclay yn ysgrifennydd iechyd, ar ôl bod yn bennaeth staff y prif weinidog yn flaenorol;
Michelle Donelan yn ysgrifennydd addysg, ar ôl bod yn weinidog prifysgolion o'r blaen.
'Dweud y gwir'
Nos Fawrth, fe wnaeth AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, alw ar Boris Johnson i ymddiswyddo yn dilyn ei phenderfyniad i gamu lawr o Swyddfa Cymru.
Cyhoeddodd Ms Crosbie ei bod yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru, a bod y cyhoedd wedi penderfynu "na ellir ymddiried yn Mr Johnson i ddweud y gwir".
Ms Crosbie oedd yr AS Ceidwadol Cymreig cyntaf i alw'n gyhoeddus am ymddiswyddiad Prif Weinidog y DU.
Yn ei llythyr yn amlinellu ei rhesymau dros ymddiswyddo, dywedodd Ms Crosbie ei bod yn credu bod "y sefyllfa'n gwaethygu".
Dywedodd mai "datganiadau anghywir a gwrth-ddweud yr hyn yr oeddech chi'n gwybod" am Mr Pincher, sy'n wynebu honiadau o gamymddwyn rhywiol, "oedd y gwelltyn olaf".
Mae'r llythyr yn ychwanegu: "Does gen i ddim syniad beth sy'n digwydd yn Downing Street ond mae'n ymddangos eich bod naill ai'n cael eich cynghori'n wael neu'n methu â newid neu ddiwygio'r gweithrediad camweithredol sydd yng nghanol y llywodraeth rydych chi'n ei harwain."
Ychwanegodd: "Rydych chi wedi cyflawni llawer, ond does gen i ddim hyder y gallwch chi gyflawni unrhyw beth arall heblaw arwain y blaid i'r wrthblaid ac ansefydlogi'r swydd y mae gennych chi'r anrhydedd i'w dal.
"Rwy'n gwybod eich bod yn caru y wlad hon. Gallwch ei gwasanaethu am un tro olaf drwy adael y swydd," meddai.
'Dim olynydd amlwg i Johnson'
Dywedodd Guto Bebb, cyn AS Ceidwadol Aberconwy a chyn weinidog yn llywodraeth Theresa May, fod Boris Johnson yn ddyn peryglus iawn o ran sefydlogrwydd y drefn wleidyddol ym Mhrydain.
Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe wnaeth Mr Bebb wneud cymhariaeth â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau.
"Dydi Boris Johnson ddim yn credu yn y gwirionedd, dydi o ddim yn credu mewn safonau," meddai.
"Dydi o ddim yn credu mewn unrhyw fath o reoliadau ar ei allu i weithredu fel prif weinidog ac mae hynny yn beryglus iawn.
"Yn fy marn i mae o yn gymeriad sydd â'r gallu i wneud yr un math o ddrwg i wleidyddiaeth ac sydd wedi digwydd yn America dan [Donald] Trump."
Dywedodd Mr Bebb fod yna rwygiadau "enbyd" wedi digwydd o fewn y blaid Geidwadol.
"Mae hi'n gyffredinol yn wir i ddweud nad ydy'r cyhoedd yn ymateb yn gadarnhaol i bleidiau sy' wedi eu rhannu," meddai.
"A mae hyn 'da ni wedi'i weld ddoe yn dangos bod yna rwygiadau enbyd yn y Blaid Geidwadol a'r llywodraeth yma.
"Un peth efallai sy'n fanteisiol i Boris Johnson ydy'r teimlad ymysg aelodau seneddol a hefyd aelodau y Blaid Geidwadol ar lawr gwlad nad oes yna ymgeisydd amlwg i ddilyn Boris Johnson."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022