Cwmbrân: 10% o staff ysbyty yn absennol gyda Covid
- Cyhoeddwyd
Mae un o benaethiaid Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbrân yn dweud fod yr ysbyty yn wynebu sefyllfa "hynod heriol" gyda 10% o'r staff yn sâl gyda Covid.
Galwodd Dr Alastair Richards, cyfarwyddwr clinigol yr ysbyty, ar bobl i gadw draw os yn bosib.
Daw hyn wrth i'r prif weinidog Mark Drakeford ddweud fod dros 2% o holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn absennol o'u gwaith oherwydd y feirws.
Mae'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi ailgyflwyno'r defnydd o fygydau ar gyfer ymweld ag ysbytai.
Dywedodd Dr Richards: "Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda thua 10% o'r staff yn absennol oherwydd Covid.
"Er o bosib nad yw hynny'n swnio'n rhy ddrwg, mae'n gwneud gwaith rheolwyr yn hynod o anodd oherwydd mae hyn fel rheol ar fyr rybudd," meddai.
"Mae staff yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd fel pwy sy'n cael triniaeth nesa, pwy i roi ar droli neu mewn gwely, a phryd i weld pobl."
Dywedodd Nick Hughes, cyfarwyddwr gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghrymu, fod nyrsys wedi blino'n lân, a bod yn rhaid i ysbytai flaenoriaethau pa wasanaethau maen nhw'n gallu ei ddarparu.
Dywedodd ei bod yn croesawu penderfyniad y byrddau iechyd i gyflwyno mesurau newydd i sicrhau fod staff a chleifion yn ddiogel
"Byddwn yn annog pobl sydd â symptomau i beidio mynd i ysbyty, oni bai eu bod angen gofal meddygol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022