Rhyddhau dyn yn dilyn marwolaeth dynes ym Mwcle
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei arestio yn Sir Y Fflint mewn cysylltiad â marwolaeth dynes wedi cael ei ryddhau heb gyhuddiad yn dilyn cadarnhad ei bod wedi marw o achosion naturiol.
Roedd Heddlu'r Gogledd wedi datgan yn gynharach bod swyddogion yn holi'r dyn wedi iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad yn nhref Bwcle fore Sadwrn ble daethon nhw o hyd i gorff y ddynes.
Roedden nhw hefyd wedi dweud y gallai'r cyhoedd fod yn dawel eu meddyliau "bod hwn yn cael ei drin fel digwyddiad unigol".
Erbyn diwedd y prynhawn fe ddywedodd y llu bod y dyn wedi ei ryddhau nawr heb gyhuddiad, a bod y crwner wedi cadarnhau bod y ddynes wedi marw o achosion naturiol.
Ychwanegodd y llu: "Mae ein cydymdeimladau dwysaf gydag ei theulu a'i ffrindiau."