Arestio dyn lleol wedi marwolaeth amheus yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Rhodfa'r Môr, Y BermoFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Galwyd swyddogion i gyfeiriad ar Rhodfa'r Môr toc cyn 23:00 nos Sul

Mae ymchwiliad wedi ei lansio yn dilyn marwolaeth amheus yng Ngwynedd.

Galwyd swyddogion i gyfeiriad ar Rodfa'r Môr, Y Bermo am 22:56 nos Sul yn dilyn adroddiadau o ddynes mewn "cyflwr gofidus".

Dosbarthwyd swyddogion heddlu a gweithwyr ambiwlans i'r fan, ond bu farw'r ddynes.

Fore Llun cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, gyda dyn lleol wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r crwner wedi'i hysbysu gyda ditectifs yn parhau gyda'u hymchwiliadau yn y fan.

Gofynnir i unrhyw un oedd yn ardal Rhodfa'r Môr toc cyn 23:00 nos Sul i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.

Pynciau cysylltiedig