Cynghrair y Pencampwyr: Linfield 2-0 Seintiau Newydd
- Cyhoeddwyd
Roedd y Seintiau Newydd o fewn dau funud o sicrhau buddugoliaeth werthfawr yng Nghynghrair y Pencampwyr - ond setlo am ymgyrch yng Ngyngres Ewropa bydd rhaid i dîm Anthony Limbrick.
Gyda 94 munud ar y cloc roedd hi'n edrych yn bur debyg mai taith i Norwy i wynebu FK Bodø/Glimt byddai tynged pencampwyr Cymru, ond newidwyd y sefyllfa'n llwyr diolch i daran o ergyd gan Jamie Mulgrew.
Wythnos diwethaf roedd y Seintiau wedi sicrhau buddugoliaeth o 1-0 yng Nghroesoswallt yn erbyn Linfield.
O ganlyniad, byddai llechen lân ar Barc Windsor nos Fercher wedi bod yn ddigon i'r tîm o'r gororau gyrraedd yr ail rownd ragbrofol ym mhrif gystadleuaeth clybiau UEFA.
Linfield gafodd y mwyafrif o'r meddiant cynnar gyda chyfle cynta'r gêm yn dod wedi 20 munud wrth i golwr y Seintiau, Connor Roberts, wneud arbediad o beniad Finlayson.
Ond er gweld llawer mwy o'r bêl roedd pencampwyr Gogledd Iwerddon yn ffendio hi'n anodd i greu cyfleon o bwys.
Derbyniodd Connor Roberts gerdyn melyn am wastraffu amser wedi ond 33 munud wrth i'r Seintiau geisio cadw eu mantais o un gôl o'r cymal cyntaf.
Ond dechreuodd yr ail hanner yn well i'r ymwelwyr wrth greu cyfleon eu hunain.
Daeth Linfield o fewn trwch blewyn o fynd a'r gem i amser ychwanegol wrth daro'r trawst yn ystod yr amser ychwanegwyd am anafiadau.
Ond nid hynny oedd y diwedd wrth i Jamie Mulgrew guro Roberts o 25 llath er mawr foddhad y dorf gartref yn stadiwm genedlaethol Gogledd Iwerddon.
Tynodd hynny'r gwynt allan o hwyliau'r Seintiau gyda Linfield yn sgorio'i hail ond pum munud fewn i amser ychwanegol diolch i Ethan Devine a rwydodd o groesiad Chris McKee.
Yn wir, doedd y Seintiau ddim yn edrych fel sgorio wedi hynny, a felly Linfield fydd yn gwneud y daith i Norwy tra fydd y Seintiau yn disgyn i Gyngres Ewropa a dwy gymal yn erbyn Vikingur Reykjavik.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022