Carcharu seiclwr wedi gwrthdrawiad laddodd dynes, 79
- Cyhoeddwyd
Mae seiclwr darodd fenyw 79 oed ar balmant yn Sir Fynwy a'i lladd wedi ei garcharu.
Bu farw Elizabeth Jane Stone, a oedd yn cael ei hadnabod fel Jane, ar 11 Mehefin y llynedd ar ôl y gwrthdrawiad gyda beic Stewart McGinn.
Roedd Ms Stone yn cerdded adref o'r sinema yn Nhrefynwy gyda'i ffrind tua 22:00 pan gafodd ei tharo gan McGinn, wnaeth beidio stopio i helpu.
Cafodd McGinn, 29, ddedfryd 12 mis yn y carchar, a'i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a hanner.
Roedd McGinn yn teithio ar gyflymder uchel heb olau, a dim ond un brêc oedd yn gweithio adeg y digwyddiad.
Seiclodd i ffwrdd ar ôl taro Ms Stone er i'w ffrind hi, Janet Bromley, alw am help.
Mewn datganiad dywedodd Ms Bromley fod Ms Stone wedi cael ei chodi o'r llawr ac yna cwympo'n galed a tharo ei phen.
Bu farw Ms Stone rhai dyddiau'n ddiweddarach o'i hanafiadau.
Ni wnaeth McGinn gysylltu gyda'r heddlu tan 10 diwrnod ar ôl y digwyddiad, a dywedodd yn wreiddiol ei fod wedi stopio i'w helpu.
Yn Llys y Goron Caerdydd, plediodd yn euog i gyhuddiad o yrru ei feic mewn modd direswm neu ffyrnig.
Dywedodd David Bruten, brawd Ms Stone, bod ei chwaer yn fenyw "actif" oedd wedi abseilio o dŵr eglwys yn ddiweddar.
Soniodd hefyd am y gadair wag wrth fwrdd cinio Nadolig y teulu.
Wrth garcharu McGinn, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei fod wedi "diystyru rheolau'r ffordd".
Dywedodd bod McGinn wedi gwneud y "penderfyniad bwriadol" i yrru ar y palmant gan wybod nad oedd yn gallu gweld o gwmpas y gornel, ac na fyddai neb wedi gallu ei osgoi.