Cynnig hwb frechlyn i'r dros 50 erbyn diwedd Tachwedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Derbyn brechlyn Covid-19Ffynhonnell y llun, Pool / Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn targedu cynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb dros 50 oed erbyn ddiwedd mis Tachwedd

Bydd pawb dros 50 oed yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu yn erbyn Covid-19 cyn diwedd Tachwedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y rheiny sy'n gymwys hefyd yn cael cynnig brechlyn yn erbyn y ffliw cyn diwedd Rhagfyr.

Mae rhybudd i ddisgwyl lefelau ffliw "llawer uwch".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod brechu yn parhau yn "arf hanfodol er mwyn amddiffyn ein hunain ac eraill," gan hefyd rybuddio bod "disgwyl i Covid a'r ffliw gylchredeg yn eang y gaeaf hwn".

Yn seiliedig ar gyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), y nod yw bod 75% o'r rhai sy'n gymwys yn cymryd y brechiad.

Y rhai fydd yn gymwys ar gyfer brechlyn atgyfnerthu'r Hydref bydd:

  • Preswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn;

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen;

  • Pob oedolyn dros 50;

  • Pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grwpiau risg clinigol, gan gynnwys menywod beichiog;

  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sy'n gysylltiadau yn y cartref i bobl ag imiwnedd fel sy'n cael ei ddiffinio yn y Llyfr Gwyrdd;

  • Pobl 16-49 oed sy'n ofalwyr.

'Disgwyl i Covid a'r ffliw gylchredeg yn eang'

Yn cyhoeddi'r targed newydd, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Unwaith eto rydym yn gweld cynnydd mewn achosion Covid-19 a mwy o bwysau ar ein GIG.

Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan: "Barod i gynyddu ein capasiti'n gyflym, pe bai angen, mewn ymateb i unrhyw don pandemig sylweddol"

"Rydym yn disgwyl i Covid-19 a'r ffliw gylchredeg yn eang y gaeaf hwn a rhaid bod yn barod ar gyfer lefelau ffliw llawer uwch neu annhymhorol.

"Mae brechu yn arf hanfodol i ni gyd amddiffyn ein hunain ac eraill wrth i ni ddysgu sut i fyw gyda Covid-19.

"Mae'r strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer yr hydref-gaeaf 2022-2023 a sut y byddwn yn cynnig y brechlynnau ffliw a Covid-19 i'r rhai sy'n gymwys, tra'n bod yn barod i gynyddu ein capasiti'n gyflym, pe bai angen, mewn ymateb i unrhyw don pandemig sylweddol neu amrywiad newydd yn y dyfodol."

Ychwanegodd: "Rydw i eisiau cynyddu'r nifer sy'n cael brechlynnau ffliw a COVID-19 i bawb sy'n gymwys, a byddwn yn parhau i weithio i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

"Mae cael eich brechu pan fyddwch chi'n cael eich gwahodd yn benderfyniad y gallwn ni i gyd ei wneud i amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd, a'n cymunedau, rwy'n annog pawb i gymryd eu hapwyntiadau yr hydref hwn i amddiffyn eich hunain a chadw Cymru'n ddiogel."