Arestio dynes ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Sir Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn, 57, farw yn Nhredegar Newydd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r safle yn Sir Caerffili oddeutu 00:30 fore Sul.
Bu farw y dyn yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael eu hysbysu ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae dynes, 31, o Gaerffili wedi cael ei harestio o'i lofruddio ac mae hi'n parhau yn y ddalfa.
Dywed yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.