Paragleidiwr o Ruthun wedi marw mewn damwain yn Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn o Ruthun fu farw mewn damwain paragleidio yn Ffrainc wedi ei ddisgrifio fel dyn "llawn bywyd oedd yn cael ei garu gan gymaint".
Yn dad i bedwar o blant, bu farw Martin Dyer, 55, ger Annecy yn ne-orllewin y wlad.
Roedd yn gyn-bêldroediwr gydag Ipswich Town am gyfnod yn yr 80au, ac roedd bellach yn gweithio mewn clwb nos ac fel saer.
Dywedodd ei deulu bod eu "calonnau'n torri".
'Atgofion yn para am byth'
"Roedd e'n llawn bywyd a chwerthin, a byddai'n gadael popeth mewn amrantiad petai unrhyw un ohonom ei angen," dywedodd y teulu.
"Roedd e'n ein hannog ni ym mhopeth yr oeddem yn ei wneud, a gwneud i ni gredu y gallem ni gyflawni unrhyw beth.
"Bydd y gwacter y mae'n ei adael yn ein bywydau'n cael ei deimlo gan gymaint o bobl, roedd yn cael ei garu gan gymaint.
"Roedd e'n ddyn doniol iawn ac roedd e wastad yn rhannu'r llawenydd ag eraill.
"Er bod ein calonnau'n torri, bydd yr atgofion ry'n ni wedi eu rhannu yn para am byth."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn cynorthwyo'r teulu.