Hen adeilad Gwasg Gee mewn cyflwr peryglus

  • Cyhoeddwyd
Bydd y cyngor sir yn edrych yn fanylach ar y difrod strwythurol gan ddefnyddio drônFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cyngor sir yn edrych yn fanylach ar y difrod strwythurol gan ddefnyddio drôn

Mae pryder ynglŷn â chyflwr hen adeilad hanesyddol yng nghanol tref Dinbych ar ôl i ran ohono ddymchwel.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gosod ffens o amgylch adeilad Gwasg Gee yn Stryd y Capel, ac yn rhybuddio pobl i osgoi'r ardal.

Bu peirianwyr strwythurol yn cynnal arolygon ar y safle ar ôl adroddiad o gwymp rhannol yn ystod oriau mân fore Llun.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod ffensys dros dro wedi'u codi ar y ffordd ger yr adeilad tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Mae'r cyngor hefyd wedi mynegi siom bod y fath ddifrod wedi digwydd, gan rybuddio y byddai Gorchymyn Prynu Gorfodol yn broses hir, anodd a chostus "heb unrhyw warant o lwyddiant".

Beth ydy hanes Gwasg Gee?

Roedd Gwasg Gee yn un o'r gweisg prysuraf yng Nghymru ar un adeg, yn argraffu llyfrau, cyfnodolion, a phapurau newydd yn cynnwys Baner ac Amserau Cymru - Y Faner yn ddiweddarach.

Bu'r awdures Kate Roberts a'i gŵr Morris, yn berchen ar y cwmni am gyfnod.

Caeodd y busnes yn 2001, ac yn fuan wedyn sefydlwyd ymddiriedolaeth gyda'r gobaith o geisio prynu'r adeilad rhestredig Gradd II, a'i droi'n amgueddfa argraffu.

Yna, yn 2007 cafwyd cais cynllunio i'w droi'n fflatiau, ond ni wireddwyd 'r'un o'r syniadau hynny, ac mae dyfodol yr adeilad yn dal mor ansicr ag erioed.

Roedd Kate Roberts - un o awduron mwyaf nodedig Cymru - yn berchen ar gwmni Gwasg Gee gyda'i gŵr, Morris
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kate Roberts - un o awduron mwyaf nodedig Cymru - yn berchen ar gwmni Gwasg Gee gyda'i gŵr, Morris

Mae perchnogion yr eiddo wedi bod yn trafod ei drosglwyddo i'r cyngor sir ers o leiaf 2005, ond hyd yma nid yw'r ddwy ochr wedi medru dod i gytundeb.

"Mae sgyrsiau'n parhau gyda pherchennog yr eiddo," meddai llefarydd y cyngor.

"Mae rhan o Stryd y Capel wedi'i chornelu nes y bydd y cyngor yn derbyn cyfarwyddyd pellach gan y peiriannydd strwythurol sy'n aros am ddrôn a pheilot i ddarparu gwybodaeth bellach.

"Dylai'r cyhoedd osgoi mynd at yr adeilad ac osgoi tynnu'r ffens dros dro o'i amgylch.

"Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda pherchennog yr eiddo a pheirianwyr strwythurol i sicrhau bod gwaith adfer yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl i wneud yr adeilad yn ddiogel."

Nid oedd y perchnogion presennol am wneud unrhyw sylw ar y mater.

Hen adeilad Gwasg Gee ar Stryd y Capel, DinbychFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna fwriad ar un adeg i droi'r hen wasg yn fflatiau

Mewn datganiad pellach ddydd Iau, dywedodd y cyngor eu bod "wedi cynnal trafodaethau gyda'r perchnogion dros lawer o flynyddoedd ynghylch eu cyfrifoldeb i gadw'r adeilad yma mewn cyflwr da.

"Mae'r trafodaethau wedi cynnwys y posibilrwydd o ganfod ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r adeilad.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi cynghori'r perchnogion bod gan y Cyngor bwerau gorfodaeth o ran esgeuluso'r math yma o adeiladau, gan gynnwys Gorchmynion Prynu Gorfodol posib.

"Mae'r opsiynau yma'n anodd, costus ac yn cymryd cryn amser, heb unrhyw warant o lwyddiant yn sgil y camau cyfreithiol a'r posibilrwydd o apêl. Dim ond pan fetho popeth arall, felly, fyddai cam o'r fath.

"Yn y pen draw, cyfrifoldeb y perchennog yw cynnal cyflwr eiddo a sicrhau defnyddiau amgen. Mae'r Cyngor wedi cefnogi'r perchnogion yn hynny o beth ac mae felly'n siomedig o weld y cwymp rhannol yma.

"Bydd arolwg drôn pellach yn cael ei gynnal o'r adeilad er mwyn cael mwy o wybodaeth am gyflwr y strwythur a byddwn yn parhau i geisio gweithio gyda'r perchnogion i gael datrysiad derbyniol i'r broblem... bydd angen ystyried yr holl opsiynau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol