Rhai o fewn Plaid Cymru yn 'ceisio lladd gyrfa' Jonathan Edwards AS
- Cyhoeddwyd
Mae rhaniadau dwfn wedi datblygu yn rhengoedd Plaid Cymru yn dilyn y penderfyniad i ganiatáu i Jonathan Edwards ailymuno â'r blaid.
Mae BBC Cymru wedi siarad ag aelodau'r blaid yn etholaeth Mr Edwards sy'n gandryll fod Pwyllgor Gwaith y blaid wedi ymyrryd ac argymell na ddylai ailymuno gyda'r grŵp seneddol.
Heb fod yn rhan o'r grŵp seneddol, byddai'n parhau fel AS annibynnol, er ei fod yn aelod o'r blaid unwaith eto.
Mae'r BBC yn deall bod Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Alun Ffred Jones, wedi ymddiswyddo am ei fod yn anhapus gyda'r argymhelliad yma.
Yn ôl y Cynghorydd Glynog Davies, mae rhai pobl o fewn y blaid yn ceisio "lladd" gyrfa wleidyddol Jonathan Edwards.
Dywed un cyn-Aelod Cynulliad blaenllaw fod "ymyrraeth" y Pwyllgor Gwaith yn "drychineb i Blaid Cymru ac i gyfiawnder naturiol".
Ond mae eraill yn teimlo na ddylai Mr Edwards - sy'n Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2010 - chwarae unrhyw ran pellach o fewn y blaid.
Beth sydd wedi digwydd?
Cafodd Mr Edwards ei wahardd o'r blaid am 12 mis yng Ngorffennaf 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd heddlu am ymosod yn dilyn digwyddiad yn y cartref teuluol.
Daeth y gwaharddiad i ben y llynedd ond doedd y blaid ddim yn mynd i ystyried ei achos hyd nes iddo wneud cais i ailymuno.
Dywedodd Mr Edwards ar y pryd ei fod yn "wir ddrwg ganddo", a'i fod yn difaru'r digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".
Mewn datganiad ar ran ei wraig wedi'r digwyddiad, dywedodd Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ngŵr."
Y penwythnos diwethaf, penderfynodd panel disgyblu y dylai Mr Edwards gael ei dderbyn yn ôl i Blaid Cymru.
Dywedodd eu bod yn derbyn "edifeirwch diffuant" Mr Edwards a'i "gyfnod hir o hunan fyfyrdod a dysgu".
Ond deallir fod Pwyllgor Gwaith y blaid wedi argymell na ddylai Jonathan Edwards AS gael dychwelyd i grŵp seneddol Plaid Cymru - a bod Alun Ffred Jones, ymysg eraill, yn anfodlon gyda'r argymhelliad.
'Yn foesol, mae'n anghredadwy'
Dyw Julie Richards, sy'n aelod o'r blaid ac yn ymgyrchydd yn erbyn trais y cartref, ddim yn credu y dylai Jonathan Edwards chwarae unrhyw ran bellach yn y blaid.
"Dwi'n siomedig iawn 'da beth mae'r blaid wedi dewis gwneud," meddai.
"Dwi'n meddwl ddylai bod yna ddim goddef trais yn y cartref.
"Mae gyda ni ddeddf blaengar yng Nghymru ac yn hynny 'da ni'n dweud bod ni ddim yn derbyn unrhyw drais yn erbyn menywod neu ferched.
"Mae Plaid wedi penderfynu anwybyddu hwn. Yn foesol, mae'n anghredadwy.
"Does dim hygrededd gan y blaid o ran siarad am bethau fel trais yn y cartref. Ni ddim wedi dysgu gwersi. Mae'n dorcalonnus.
"Mae hwn ambwyti cymdeithas a'r negeseuon ni'n rhoi mas i bawb yn y gymdeithas, yn enwedig bechgyn a dynion."
Ar y pegwn arall, mae yna anniddigrwydd enfawr ymhlith aelodau Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am y ffaith nad yw Jonathan Edwards wedi medru adennill y chwip fel aelod o'r tîm seneddol.
Un sy'n hynod flin ydy'r Cynghorydd Hazel Evans, sy'n credu na ddylai'r Pwyllgor Gwaith fod wedi "ymyrryd".
"Mae Jonathan yn Aelod Seneddol i ni ers 10 mlynedd ac wedi gweithio yn galed iawn i'r ardal," meddai.
"Mae pawb â pharch mawr iddo. Mae e wedi dweud ei hun. Un peth mae e wedi gwneud yn ei fywyd sydd wedi ei drwblu fe. Mae e wedi ddioddef.
"Dyw e ddim lan i ni drafod beth sydd wedi mynd 'mlaen rhwng teulu. Mae ei wraig wedi dweud ei fod yn dad ac yn ŵr ffyddlon.
"Mae e wedi cael mynd 'nôl i aelodaeth Plaid Cymru felly dylse fod ddim dylanwad gan y Pwyllgor Gwaith."
Mae hi'n teimlo fod rhai o fewn y blaid yn benderfynol o'i danseilio.
"Dwi'n meddwl taw rhywbeth mwy personol yw e," meddai.
"Fi'n deall mai menywod yw nhw ond dwi ddim yn deall shwd na fydden nhw yn gallu gweld beth mae Jonathan wedi mynd drwyddo hefyd."
Barod i ladd, barod i faddau
Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Glynog Davies, wedi beirniadu yn hallt ymyrraeth y Pwyllgor Gwaith ac agwedd rhai o fewn y blaid.
"Mae rhai o fewn y blaid yn barod i ladd Jonathan Edwards. Dwi'n barod i faddau iddo," meddai.
Yn ôl Glynog Davies, fe syrthiodd Jonathan Edwards ar "ei fai" ac mae wedi "talu'r gosb".
Mae'n dweud fod ymyrraeth y Pwyllgor Gwaith wedi mynd yn groes i brosesau'r blaid a bod rhai wedi troi hi yn "gêm wleidyddol".
Mae'r cyn-Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas hefyd yn feirniadol o'r broses: "Gan fod Jonathan wedi adennill ei aelodaeth o'r blaid, mater o gyfiawnder naturiol yw hi ei fod yn adennill y chwip o ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd.
"Dyw'r math yma o ymyrraeth ddim yn mynd i wneud cymwynas â Phlaid Cymru.
"Mae'n drychineb i Blaid Cymru ac i gyfiawnder naturiol."
Mae'n dweud hefyd y dylai Mr Edwards gael yr hawl i gynnig ei enw fel ymgeisydd Plaid Cymru i etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'r broses fewnol o benderfynu aelodaeth Mr Edwards' o grŵp San Steffan yn parhau.
"Nid yw'n briodol i wneud sylw pellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022