Profion gyrru: 'Stigma isymwybodol' yn erbyn menywod

  • Cyhoeddwyd
Dysgwr
Disgrifiad o’r llun,

O'r 21 canolfan asesu yng Nghymru, dim ond tair oedd â chyfradd uwch o ferched yn pasio'u prawf gyrru

Am y bymthegfed flwyddyn yn olynol mae cyfran uwch o ddynion na merched wedi pasio eu profion gyrru, yn ôl ffigyrau y DVSA.

O'r 21 canolfan asesu yng Nghymru, dim ond tair oedd â chyfradd uwch o ferched yn pasio - Abertawe, Wrecsam a'r Bala.

Pwllheli oedd â'r gwahaniaeth mwyaf - 72.3% o ddynion yn pasio yn 2021-22, o'i gymharu â 60.1% o ferched.

Dywedodd llefarydd ar ran y DVSA: "Mae pob ymgeisydd yn cael ei asesu i'r un safon ac mae canlyniad eu prawf yn gwbl ddibynnol ar berfformiad y diwrnod."

Ond mae dynes 22 oed a basiodd ei phrawf ar y chweched ymgais yn credu bod "stigma isymwybodol" ynghylch bod merched yn yrwyr gwael neu'n nerfus a dywedodd un hyfforddwr ei bod yn well ganddi ddysgu dynion oherwydd "maen nhw'n gwrando, a byddan nhw'n meddwl am beth rydych chi'n ei ddweud".

Y gyfradd sy'n pasio

Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn adlewyrchu yr hyn sy'n digwydd ar draws y DU, gyda'r gyfradd basio ar gyfer dynion yn 51.7% a'r gyfradd ar gyfer menywod yn 47.3%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y lle anoddaf yng Nghymru i basio prawf gyrru oedd Wrecsam

Mae'r ffigyrau blynyddol diweddaraf (o Ebrill 2021 i Fawrth 2022) yn dangos gwahaniaethau mawr.

Roedd y cyfraddau pasio uchaf yn y Drenewydd, Powys, lle llwyddodd 76.3% o ddynion a 75.7% o ferched.

Fodd bynnag, yn Aberhonddu llwyddodd 64.7% o ddynion i basio o'i gymharu â 55.8% o fenywod.

Roedd gwahaniaethau mawr hefyd yn Aberystwyth (66.7% o ddynion a 57.5% o ferched) a Chaerfyrddin (63.2% o ddynion a 54.3% o ferched).

Mewn dwy ganolfan yng Ngwynedd, roedd canlyniadau yn weddol debyg - 54.8% o ddynion a 55.2% o ferched yn y Bala a 54.3% o ddynion a 53.6% o ferched ym Mangor, ond ym Mhwllheli roeddent yn dra gwahanol (72.3% o'i gymharu â 60.1%).

Y lle anoddaf yng Nghymru i basio oedd Wrecsam - 44.1% o ddynion a 44.3% o ferched.

'Stigma isymwybod'

Fe basiodd Olivia Stevens, 22, ei phrawf gyrru yng Nghaerdydd yr haf diwethaf ar ei chweched ymgais.

Ffynhonnell y llun, Olivia Stevens
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olivia Stevens yn credu fod merched yn wynebu mwy o sialensau na dynion

Mae'n credu y gellid rhoi mwy o ystyriaeth i'r gwahaniaethau rhwng dynion a merched pan yn cynnal asesiadau.

"Rwy'n credu bod yna ychydig o stigma isymwybod o hyd bod gyrwyr benywaidd yn wael neu'n nerfus," meddai Olivia.

"Mae'n ymddangos bod gyrwyr gwrywaidd yn mynd i mewn i'w prawf gyda llawer mwy o hyder, yn seiliedig ar fy mhrofiad personol.

"Efallai y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i straen a phryder gyrwyr benywaidd.

"Hefyd, dylid rhoi mwy o ystyriaeth i sut mae hormonau'n effeithio ar yrru.

"Mae rhai tasgau yn fwy anodd pan fo estrogen yn isel, a gall hyn effeithio ar bethau fel gyrru."

'Well gen i ddysgu dynion'

Mae Karen Price, 61, yn berchen ar ysgol yrru KS yn Amwythig, ond mae llawer o'i myfyrwyr yn sefyll eu prawf yn y Drenewydd.

Ffynhonnell y llun, Karen Price
Disgrifiad o’r llun,

Karen Price: "Mae dynion yn gwrando, a byddan nhw'n meddwl am yr hyn rydych chi'n ei ddweud"

Dywedodd: "Pe bai gen i ddewis rhwng dysgu myfyriwr gwrywaidd neu fenywaidd, byddai'n well gen i ddysgu dynion.

"Maen nhw'n gwrando, a byddan nhw'n meddwl am yr hyn rydych chi'n ei ddweud. Byddan nhw'n dechrau gwneud pethau'n syth. Gyda merch, bum awr yn ddiweddarach, rydych chi'n dal i ymdopi â'r un broblem.

"Rwy'n addysgu 50-50 o ddynion a merched, ond pe bawn yn cael dewis byddai'n well gennyf addysgu myfyrwyr gwrywaidd.

"Dwi wedi darganfod bod merched eisiau mynd am eu prawf cyn eu bod yn barod. Gyda hogiau, maen nhw'n dueddol o gael mwy o brofiad ymarferol mewn car."

Ond nid yw hyfforddwyr eraill yn cytuno.

Mae Elwyn Marfell-Jones, 57, yn berchen ar ysgol yrru Autolearners ac mae ei fyfyrwyr yn sefyll eu prawf yn Abertawe - un o ddim ond tair ardal yng Nghymru lle mae merched yn fwy tebygol o basio.

"Fel hyfforddwr, rwy'n trin gwrywod a benywod yn union yr un ffordd," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Elwyn Marfell-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Elwyn Marfell-Jones: "Does dim perthynas rhwng rhyw rhywun a pha mor debygol ydyn nhw o basio eu prawf"

"Dwi wedi canfod mai dyma'r fformiwla orau.

"Yn fy mhrofiad i, does dim perthynas rhwng rhyw rhywun a pha mor debygol ydyn nhw o basio eu prawf."

Ymchwilad y Llywodraeth y DU

Cynhaliwyd ymchwiliad gan bwyllgor trafnidiaeth Senedd y DU yn 2021 i nifer o bobl ifanc oedd mewn damweiniau traffig ffyrdd.

Nododd yr adroddiad: "Mae'r gyfran o yrwyr gwrywaidd ifanc sy'n cael damweiniau ffordd yn drawiadol.

"Gyrwyr gwrywaidd ifanc sy'n gyfrifol am 80% o farwolaethau gyrwyr ifanc.

"Mae gyrwyr gwrywaidd ifanc bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar y ffordd na gyrwyr 25 oed neu hŷn."

Pynciau cysylltiedig