Diffyg profion gyrru: 'Strach' i weithwyr allweddol

  • Cyhoeddwyd
Car ysgol yrru LasloFfynhonnell y llun, Bleddyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae oedi hir am brofion gyrru a chanolfannau theori Cymru ar gau

Mae gweithwyr allweddol sydd heb drwydded gyrru yn dweud bod oedi hir am brofion gyrru yn achosi strach a phwysau ychwanegol ar adeg anodd.

Does 'na'r un canolfan brawf theori ar agor yng Nghymru oherwydd yr argyfwng, gyda'r canolfannau agosaf yn Llundain neu Birmingham. Dim ond gweithwyr allweddol sy'n gallu sefyll eu prawf ar hyn o bryd, ond mae nifer yn dweud bod 'na oedi hir am brofion.

Mae Asiantaeth Safonau gyrru'r DVSA yn dweud bod pump canolfan brawf gyrru ar agor i weithwyr allweddol yng Nghymru, a'u bod yn adolygu eu mesurau yn gyson.

Yn ôl un hyfforddwr gyrru ym Methesda, mae'r sefyllfa'n achos rhwystredigaeth mawr.

Aildrefnu profion

"Mae gen i weithwyr allweddol sydd wedi cael eu profion theori wedi canslo oherwydd y coronafeirws, ac maen nhw wedi gorfod aildrefnu profion theori," medd Bleddyn Hughes o Ysgol Yrru Laslo, Bethesda.

Ffynhonnell y llun, Bleddyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bleddyn Hughes yn hyfforddi 6 o weithwyr allweddol i ddysgu gyrru ar hyn o bryd

"Yr unig lefydd ar gael ydi Birmingham, Llundain a Glasgow. Mae gyrwyr o Gymru dan anfantais. Dydyn nhw ddim yn mynd i deithio mor bell â hynny!"

"Mae un o fy ngweithwyr allweddol i yn ffermwr, ac mae o'n deud ei bod hi'n amhosib iddo fod deithio i Birmingham. Dio'm yn gallu gyrru mor bell â fanna!"

Un arall o ddisgyblion gyrru Mr Hughes yw Elwen Evans, 18, o Fethesda. Fel gweithwraig allweddol yng nghanolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Y Fali, mae'n gorfod teithio 25 milltir i'w gwaith ac yn dibynnu ar ei thad i'w chludo.

Ffynhonnell y llun, Elwen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elwen Evans yn barod i gymryd ei phrawf ond yn dibynnu ar ei thad i'w gyrru i'r gwaith

Ar ôl pasio'i phrawf theori ym mis Rhagfyr, cafodd wybod yn gynnar wedi i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym bod ei phrawf gyrru ym mis Mai wedi cael ei ganslo.

Rhwystredigaeth

Erbyn hyn, mae wedi cael gwybod na fydd hi'n sefyll ei phrawf ymarferol tan fis Awst o leiaf.

"Mae o'n rhwystredig," meddai. "Mae o'n 25 milltir i'r gwaith. Felly ma Dad yn gorfod neud y siwrne bedair gwaith.

"Mae o'n gorfod neud 100 milltir y diwrnod jyst i fynd a fi nôl a mlaen i'r gwaith. Mae'n bach o strach."

Mewn ymateb mae Asiantaeth Safonau Gyrru'r DVSA yn dweud eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa.

"Mae profion gyrru a theori ar gael i weithwyr allweddol o hyd, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i gyflawni eu gwaith hanfodol ar hyn o bryd," medd llefarydd.

"Mae canolfannau prawf gyrru yn dal i fod ar agor yn Llundain, Birmingham a Glasgow, ac mae pump canolfan yrru ar agor yng Nghymru i brofi ymgeiswyr sy'n weithwyr allweddol.

"Ry'n ni'n adolygu ein mesurau yn gyson."