Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Llanbedr dc

Mae dau glaf yn cael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Stoke a dau arall yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 ger Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi'u galw am 13.12 brynhawn Sadwrn a'u bod wedi anfon pedwar cerbyd ymateb brys, tri ambiwlans a dau ambiwlans awyr.

Cafodd un claf ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Stoke ac un arall mewn cerbyd i'r un ysbyty ac aed â dau arall i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ar un adeg roedd ffordd yr A494 ger Rhuthun ar gau i'r ddau gyfeiriad ond mae bellach wedi ailagor.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna wrthdrawiad rhwng Y Bala a Dolgellau hefyd brynhawn Sadwrn

Yn y cyfamser bu ffordd yr A494 rhwng y Bala a Dolgellau i gyfeiriad Llanuwchllyn ar gau am gyfnod wedi gwrthdrawiad arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi eu galw am 14:40.

Cafodd un cerbyd ymateb brys, parafeddyg, un ambiwlans ac ambiwlans awyr eu hanfon yno.