Arestio dyn wedi i ferch, 17, farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Y ffordd ar gau

Mae dyn, 21, o Rymni wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru o dan ddylanwad alcohol wedi i ferch, 17, a oedd yn teithio yn y car farw yn y fan a'r lle.

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn apelio am dystion wedi'r gwrthdrawiad yn Fochriw, Sir Caerffili, toc wedi pump o'r gloch fore Sul.

Dim ond un car oedd yn y gwrthdrawiad sef Skoda Octavio llwydfelyn.

Roedd y ferch, 17, yn dod o Aberpennar ac mae ei theulu yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi'r gwrthdrawiad