Prestatyn: Enwi dyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan drên

  • Cyhoeddwyd
Prestatyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Keith Ford, garddwr hunangyflogedig 40 oed, ei daro gan drên

Mae dyn a fu farw ar reilffordd ger Prestatyn yn gynharach yn y mis wedi'i enwi wrth agor cwest i'w farwolaeth.

Mewn gwrandawiad yn Rhuthun fore Llun dywedodd y crwner cynorthwyol, David Lewis, fod Keith Ford wedi marw o anafiadau i'w frest.

Roedd y garddwr hunangyflogedig, 40 oed o Fanceinion, wedi ei daro gan drên ar 13 Gorffennaf.

Yn dilyn y digwyddiad cafodd dyn 47 oed, hefyd o Fanceinion, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Ond cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach tra bod ymchwiliadau yn parhau.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi apelio am dystion a oedd yn aros ym Maes Carafanau Greenacres gerllaw a allai fod wedi clywed neu weld rhywbeth.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad eto i'w bennu.

Pynciau cysylltiedig