'Effaith enbyd' syndrom Sjögren ar fywyd
- Cyhoeddwyd
Mae cyflyrau hunanimíwn yn dod yn fwyfwy cyffredin ond mae'r mwyafrif ohonyn nhw yn anweledig gyda phobl yn byw o ddydd i ddydd a nifer ddim yn ymwybodol o frwydr ddyddiol maen nhw yn wynebu.
Mae'r cyflwr yn effeithio ar fywyd un o bob 200 ac ynghyd â symptomau sychder corfforol helaeth, mae cymhlethdodau difrifol yn cynnwys blinder dwys, poen cronig, chwyddiant yn yr organau, niwropathi, a lymffoma.
Un sydd yn byw gyda'r cyflwr ydi Dorothy Williams sy'n 57 oed o Fethesda, ac mi fuodd hi'n rhannu ei phrofiadau o fyw gyda Sjögrens ar Dros Ginio.
"Mae o yn salwch sydd yn cael effaith ar y chwarennau sydd yn cynhyrchu hylif yn y corff," meddai Dorothy Williams.
"Mae'n cael effaith ar y llygad, y geg, y gwddw a'r cymalau. Unwaith mae gennych chi mae o i gyd yn ddibynnol ar yr unigolyn.
"Mae'r symptomau yn gallu bod yn wahanol a dydi o ddim yn effeithio ar bawb yr un ffordd. Rydan ni gyd efo gwahanol quirks o fewn y salwch."
Y prif broblemau sydd gan Dorothy ydi llygad a cheg sych a dydi hi ddim yn gallu cynhyrchu dagrau na phoer. Mae ganddi hefyd broblem gyda'i chwarennau yn chwyddo yn ei gwddf a'i cheg yn ogystal ag yn ei parotedgland ger ei chlust.
"Ar y diwrnodau pan dwi'n gwybod dwi ddim am fod yn dda maen nhw yn galw nhw yn flare ups. Ond eto mae pob un unigolyn yn wahanol," meddai Dorothy.
"Dwi'n cael rhyw ddau ddiwrnod y mis lle dwi'n gwneud dim byd mond cysgu. Chronic fatigue maen nhw'n galw hynny, a dydi o'r ots os dwi yn fy ngwely drwy'r dydd a nos, mae'r blinder yna dal yna, mae o'n ddiddiwedd."
'Anodd iawn esbonio'
Gan nad yw'r symptomau'n gyson mae'n gyflwr heriol i'r rhai sy'n dioddef i'w esbonio ond hefyd i feddygon i'w adnabod. Mae hyn yn arwain at ddiagnosis anghywir yn aml.
Meddai Dorothy: "Mae unrhyw berson sydd yn dioddef o Sjögrens a gyda meddyg teulu sydd yn deall y salwch yn lwcus iawn.
"Dwi 'di cyfarfod dau feddyg teulu yn y deuddeg mlynedd dwytha' 'ma sydd wedi deall beth yw Sjögrens a'r effaith mae o'n cael nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol.
"Mae hi'n anodd iawn esbonio i bobl be yn union ydi o. Dwi'n cofio un meddyg pan o'n i'n cael problemau gyda fy mhen-glin oherwydd ei fod o yn gallu effeithio ar gymylau. Wnaeth hi sbïo arna'i a dweud mai Fibromyalgia ydi o a 'get on with it'.
"Dydi o ddim yn dangos fyny ar x-rays na dim byd ac wedyn rydych yn cael eich trin fel hypochondriac weithiau."
Effaith meddyliol
Mae Sjögrens yn cael effaith corfforol dwys ond yn ôl Dorothy ei hiechyd meddwl sydd yn cael ei effeithio fwyaf.
"Un munud 'dach chi'n hollol iach, 'dach chi'n parhau gyda'ch bywyd, mi ydach chi yn gallu mwynhau pethau bach," meddai.
"Ond dros y blynyddoedd dwi wedi dysgu nad ydw i hanner y person ag oeddwn i flynyddoedd yn ôl. 'Di'r hogan oedd yn cario bêls gwair a ballu ddim yn bodoli ddim mwy. A dyna dwi'n colli dwi'n meddwl - y teimlad o hunaniaeth."
"Fe allwn i gerddad allan o tŷ rŵan a fysa rhywun yn deud 'ew ti'n edrych yn dda' ond tu fewn fysa fy nghorff yn sgrechian arna i i fynd yn ôl i tŷ a chau fy hun i ffwrdd.
"Ond mae o yn gyflwr sydd yn cael effaith enbyd ar bobl. Mae 'na ambell ddiwrnod lle 'dach chi'n gorfod llusgo eich hun allan o'r gwely."
Hefyd o ddiddordeb: