Her nesaf Tina Evans sy'n byw gyda chyflwr Friedrich's Ataxia
- Cyhoeddwyd
"Mae e jest ynddo fi, unrhyw beth sy'n bosib i fi 'neud, nai gael tro,"
Mae Tina Evans, sy'n defnyddio cadair olwyn oherwydd bod y cyflwr Friedreich's Ataxia arni, yn disgrifio ei hun fel adrenaline junkie sy'n caru bod allan yn yr awyr agored yn rhoi cynnig ar bob her dan haul.
Mae hi'n flogio am ei hanturiaethau dan yr enw Human on Wheels a phostio ei fideos ei hun ar You Tube.
A'r her nesaf mae hi wedi ei dderbyn ydi gohebu i S4C yn Gemau'r Gymanwlad o Birmingham - y tro cyntaf iddi fod yn rhan o dîm cyflwyno teledu.
Gyda Heledd Anna, Gareth Rhys Owen a Gareth Roberts fe fydd yn rhan o'r tîm fydd yn dilyn tîm Cymru ac yn dod â'r uchafbwyntiau dyddiol o'r Gemau.
Cyflwyno Gemau'r Gymanwlad yn 'enfawr'
"Fi'n eitha cyfarwydd â bod o flaen y camera, fi wedi gwneud lot o raglenni a pethe hefyd," meddai wrth siarad gydag Aled Hughes ar Radio Cymru.
"Ond bydd hwn yn rhywbeth bach yn wahanol achos mae gwneud Gemau'r Gymanwlad yn rhywbeth enfawr, gyda'r criw i gyd, bydd e'n lot mwy na jyst fi a nghamera bach i.
"O'n i bach yn shocked yn cael yr alwad, oedd e'n rhywbeth fydden i byth wedi ei ddisgwyl. O'n i ar y ffordd yn y car ar y pryd yn gyrru ac es i at ffrind a nes i ddweud wrthi am yr alwad o'n i newydd cael ac o'n i dal mewn sioc.
"Oedd hi'n gyffrous i gyd ac o'n i fel 'Fi methu credu fe!' 'Sai'n meddwl bod e dal heb sinco mewn yn iawn!" meddai Tina sydd o Bontyberem yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerfyrddin.
Cafodd Tina ei diagnosis pan roedd hi'n 16 oed ar ôl sylwi ei bod yn cael problemau gyda cherdded a chadw cydbwysedd.
Mae'r cyflwr yn un dirywiol sy'n gallu cyfyngu ar hyd bywyd ond bellach yn 37 mlwydd oed, gyda chymorth teulu a ffrindiau ac agwedd bositif at fywyd, dydi Tina ddim wedi gadael i'r cyflwr ei dal hi yn ôl.
Cadw fynd a chadw'n bositif
Mae wedi siarad am y dewis a wynebodd wedi cael y diagnosis: naill ai derbyn bod ei bywyd wedi ei gyfyngu neu gwrando ar ei llais mewnol a gwthio pob ffin oedd yn cael ei osod.
Dewisodd Tina yr ail a phenderfynu peidio â gadael i'r cyflwr ei chyfyngu.
"Cyflwr niwrolegol yw e sy'n effeithio ar gydbwysedd a coordination," esboniodd ar Radio Cymru.
"'Dyw e ddim yn effeithio pob darn o'r corff ond yn bennaf ar y cyhyrau so fi'n gorfod defnyddio cadair olwyn ond fi dal yn cadw fynd a neud popeth fi'n gallu, mae gyda fi agwedd eitha' positif i ddelio gydag e."
Yn ddiweddar, fe roddodd Tina gynnig ar arfordiro - coasteering.
"Fi'n bach o adrenaline junkie; o'n nhw jyst yn taflu fi off y creigiau. Fi'n cofio ffonio nhw (y bobl oedd yn rhedeg y cwrs) a dweud 'Alla'i ddod i 'neud coasteering?'
"A wedon nhw 'ie dim problem'."
Er iddyn nhw egluro nad oedd ganddyn nhw'r offer pwrpasol i'w chodi ar y creigiau a'i gollwng i'r dŵr ac mai "cario ti lan, taflu ti mewn" fydden nhw'n ei wneud, doedd dim ots gan Tina.
"O'n i' fel 'Ie grêt!'
"Fi'n hapusaf pan fi allan ynghanol natur. Mae gyda fi VW Transporter a fi'n treulio amser ar adventures bach.
"Fi'n ymarfer ar gyfer triathlon diwedd Awst, y Superhero Tri - ni wedi mynd am y pellter mwyaf; 750 medr o nofio, 20k seiclo, 5k rhedeg/handcycle.
"Dim ond mis Medi diwethaf nes i ddechrau nofio. Fi wedi dod yn bell 'da hyfforddwraig amazing fi, Caris, ond mae dal tipyn i wneud. Felly fi'n nofio, seiclo a cheisio cryfhau yn y gym.
"Mae diddordeb mawr 'da fi yn edrych ar ôl lles corfforol a lles meddyliol. Fi'n meditato pob dydd a dwi wedi astudio Naturopathy lle fi'n bwyta bwyd iach."
'Beth os bydd e'n amazing?!'
Pa gampau mae Tina mwyaf cyffrous amdanynt yn y Gemau?
"Ar y foment mae nofio yn rhan fawr o mywyd i so fi'n edrych mlaen i fynd i wylio pobl sydd ar frig eu camp a gyda gymaint o angerdd am eu camp i weld sut maen nhw'n neud e, a gobeithio pigo lan bach o tips," meddai.
Bydd y rhaglenni yn cychwyn ar nos Iau 28 Gorffennaf gyda rhaglen awr yn edrych ymlaen at y Gemau. O'r nos Wener ymlaen bydd S4C yn dangos Birmingham 2022: Cymry yn y Gemau, sef hanner awr dyddiol o uchafbwyntiau, y newyddion diweddaraf a'r holl straeon o dîm Cymru.
Unrhyw gyngor i athletwyr eraill?
"Hoff ddyfyniad fi yw, 'Beth os wnâi cwympo? Ond f'anwylid beth os wnei di hedfan?'. Fi'n trial cadw hwn mewn cof wrth 'neud popeth mewn bywyd. Ni wastad yn ddigon cloi i feddwl beth gall fynd yn anghywir â'r ochr negyddol, ond beth os bydd e'n amazing?!
"Gweithiwch yn galed, joiwch bywyd a gweld beth sydd i ddod."
Hefyd o ddiddordeb: