Miloedd yn heidio i Lyn Brianne am y dydd yn 1974
- Cyhoeddwyd
Gadael traethau'r gorllewin yn wag a Llyn Brianne yn llawn. Dyna ddigwyddodd yn ystod gwanwyn a haf 1974 wrth i dyrrau o bobl o bob cwr o Gymru ymweld â chronfa ddŵr Llyn Brianne.
Agorwyd y safle ar 15 Mai 1973 gan y Dywysoges Alexandra er mwyn rheoli llif Afon Tywi. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd gweld y gwaith dŵr newydd a'r golygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi a Cheredigion wedi dod yn ddiwrnod allan poblogaidd.
Ond pam hynny? Deryk Williams, gohebydd rhaglen Heddiw, aeth i holi ymwelwyr Llyn Brianne ym mis Ebrill 1974.
Mae'r deunydd wedi ei ryddhau fel rhan o brosiect archif BBC Rewind, dolen allanol - er mwyn dathlu'r canmlwyddiant. Mae'r BBC yn rhoi mynediad i filoedd o ffilmiau sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru a gweddill Prydain ers yr 1940au.
Hefyd o ddiddordeb: