Agor a gohirio cwest yn achos marwolaeth padlfyrddiwr
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos marwolaeth dynes ifanc a aeth i drafferthion wrth badlfyrddio oddi ar arfordir Sir Conwy.
Bu farw Emma Louise Powell yn yr ysbyty ar ôl cael ei hachub o Afon Conwy ger Morfa Conwy yn hwyr nos Iau, 14 Gorffennaf.
Roedd y weinyddes 24 oed o Landudno wedi mynd i badlfyrddio gyda dau ffrind arall - roedd angen triniaeth feddygol arnyn nhw hefyd.
Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun, dywedodd David Lewis, Crwner Cynorthwol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, bod hi'n ymddangos bod Ms Powell wedi mynd yn sownd dan y dŵr.
Roedd aelodau a hofrennydd Gwylwyr y Glannau, bad achub Conwy, criwiau heddlu ac ambiwlans ac aelodau'r cyhoedd yn rhan o'r ymdrech i achub Ms Powell a'i ffrindiau.
Cafodd Ms Powell ei disgrifio gan ei theulu fel person "â phersonoliaeth hapus braf" a'i bod yn "ferch ifanc hardd oedd yn anturus ac ag ysbryd rhydd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022