Padlfyrddiwr wedi marw ar ôl mynd i drafferth ger Morfa Conwy

  • Cyhoeddwyd
Emma PowellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Emma Powell ei bod yn "ferch ifanc hardd" ac "anturus"

Mae dynes 24 oed wedi marw ar ôl i grŵp o badlfyrddwyr fynd i drafferthion yn y môr ger Conwy.

Roedd Emma Louise Powell, o ardal Llandudno, ymhlith tri o bobl a gafodd anafiadau ar ôl mynd i drafferthion ger Morfa Conwy yn hwyr nos Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'w helpu toc wedi 22:00, ac fe gafodd dau o'r padlfyrddwyr eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ble y bu farw Ms Powell.

Mae'r heddlu'n rhoi cymorth i'w theulu, a ddywedodd mewn teyrnged: "Roedd Emma yn ferch ifanc hardd oedd yn anturus ac ag ysbryd rhydd.

"Bydd yn aros yn ein calonnau weddill ein bywydau."

Ffynhonnell y llun, Aran Lennox/North Wales Live
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwylwyr y Glannau a sawl ambiwlans yn rhan o'r ymdrech i helpu'r padlfyrddwyr nos Iau

Dywedodd PC Jonathan Williams o Heddlu'r Gogledd yn gynharach ddydd Gwener fod swyddogion wedi eu galw tua 22:15 nos Iau i "adroddiad fod tri o badlfyrddwyr mewn trafferth yn Afon Conwy".

"Ro'dd yr heddlu, gwylwyr y glannau a'r gwasanaeth ambiwlans yn rhan o'r ymdrech ac mi gafodd tri o bobl eu hachub o'r dŵr.

"Cludwyd dau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond, yn anffodus, er gwaetha ymdrechion gorau pawb, bu un farw yn yr ysbyty - merch 24 oed o'r ardal yn lleol i Gonwy."

Disgrifiad o’r llun,

Blodau wedi eu gadael ger y traeth brynhawn Gwener

Ychwanegodd: "Be 'dan ni'n feddwl sydd wedi digwydd ydy bod pobl wedi dod yma i ymlacio a mwynhau y dŵr a cael hwyl.

"A wedyn yn anffodus mae un ohonyn nhw wedi cael mewn [trafferthion] - wedi cael ei thynnu i lawr.

"Efo'r tymheredd yn codi, 'dan ni'n gofyn i bobl fwynhau y traeth, mwynhau'r môr, ond bod yn ofalus.

"Mae o mor hawdd mynd i berygl a pethau difrifol yn digwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans: "Fe wnaethon ni ymateb gyda phedwar ambiwlans brys, dau gar brys, yn ogystal â gwylwyr y glannau.

"Cludwyd dau glaf i Ysbyty Gwynedd ym Mangor."

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Does dim mwy o wybodaeth am gyflwr aelodau eraill y grŵp.