Teyrnged teulu i feiciwr modur 'caredig a gofalgar'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd dros y penwythnos wedi talu teyrnged iddo.
Roedd Timothy Seyffert yn 47 oed ac yn byw yn ardal Llandrindod, ym Mhowys.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys Seat Leon arian a beic modur BMW coch, ar yr A494 ger Llanuwchllyn o gwmpas 14:45 brynhawn Sadwrn.
Mewn datganiad ar ran y teulu, fe gafodd Mr Seyffert, oedd hefyd yn cael ei nabod fel Tim, ei ddisgrifio fel "dyn caredig, gofalgar a thosturiol gyda chofleidiad twymgalon" i'r bobl oedd yn agos ato.
Dywed y teulu bod ganddo "gariad at feicio modur dros sawl degawd", gan fynegi tristwch na fydd modd "mwynhau ei gwmni ar ddwy olwyn ar y lôn byth eto".
Maen nhw wedi gofyn am breifatrwydd "wrth i ni alaru am y dyn a lenwodd ein calonnau gyda chariad a miri".
Mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru i'r gwrthdrawiad yn parhau.
"Rydym yn cydymdeimlo'n ddwfn gyda theulu a ffrindiau Mr Seyffert ar yr adeg hynod anodd yma," dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes o'r Uned Plismona'r Ffyrdd.
"Rydym yn apelio ar unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un allai fod wedi teithio ar hyd yr A494 tuag adeg y digwyddiad a allai fod â lluniau dashcam, i gysylltu â ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2022