O un pren i un pinc: Pafiliwn yr Eisteddfod ar hyd y degawdau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Pafiliwn wedi bod yn ganolbwynt Maes yr Eisteddfod am dros 150 o flynyddoedd.
Yn llwyfan i'r cystadlu a phrif seremonïau'r Orsedd gan gynnwys y Cadeirio a'r Coroni, y Pafiliwn yw pabell bwysica'r Maes ac mae'n symbol o ddiwylliant Cymru.
Ond sut mae'r Pafiliwn wedi newid ar hyd y blynyddoedd? Cymru Fyw aeth i dyrchu.
Y Pafiliwn yn ei dyddiau cynnar
Wyddoch chi mai Y Deyrnbabell oedd enw'r Pafiliwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Yn 1861, adeg yr Eisteddfod gyntaf ar ei ffurf bresennol yn Aberdâr, bu'n rhaid troi neuadd y farchnad yn Bafiliwn yn hytrach na dibynnu ar Y Deyrnbabell oedd wedi chwythu i'r llawr!
Meddai Baner ac Amserau Cymru ar 28 Awst 1861:
"…yn ddisymmwth, cododd yn wynt ystormus tua chanol dydd, dydd Sabbath, a chwythwyd y deyrnbabell i lawr yn chwilfriw.
"Yr oedd y fath ddigwyddiad mor agos i ddydd yr eisteddfod yn ddigon i wangaloni y galon ddewraf; ond yn lle pendroni uwchben y galanastra, penderfynodd y dewrddyn awenyddol, Alaw Goch, a'r pwyllgor, i fyned ynghyd â chyfaddasu y Marchnad-dŷ i gynnal yr eisteddfod ynddi: a phan ystyriom yr amser bychan oedd ganddynt tuag at gyflawni y fath orchwyl aruthrol, y mae'n hynod ei fod gystal."
Ac fe gafodd pafiliynau'r Eisteddfod gryn sylw gan y wasg dros y blynyddoedd dilynol, gyda disgrifiadau manwl a diddorol o'r adeiladau hynod yma a fyddai'n wahanol bob blwyddyn - yn bebyll ac yn adeiladau pren.
Roedd cynllun y Pafiliwn yn un o gyfrifoldebau'r pwyllgorau lleol a oedd yn trefnu'r Eisteddfod ei hun.
Bangor oedd cartref yr Eisteddfod yn 1890 ac mae gan Y Genedl Gymreig adroddiad hir am y Pafiliwn yn eu rhifyn ar 27 Awst y flwyddyn honno. Roedd yr Eisteddfod wed'i chynnal ym Mangor yn 1874, ac roedd pwyllgor y Brifwyl yn 1890 wedi dilyn yr un cynllun ar gyfer y Pafiliwn, "nas gallasent wneuthur dim yn well na mabwysiadu yr hen gynlluniau a'u heangu."
Meddai'r Genedl Gymreig: "Amcangyfrifir fod ynddi le i 7500 o bersonau mewn oed neu 8000 o gynulleidfa gymysg eistedd yn gysurus. Y mae prif span y to yn 90 troedfedd o hyd, tra mae spans y ddwy ochr yn 35 troedfedd yr un. Amhosibl fyddai cael llwyfan ar well cynllun; a chredwn mai barn pawb a welant y modd gorphenedig mae y rhan hwn o'r adeilad wedi ei gario allan fydd mai gresyn fydd ei ddymchwelyd wedi yr elo yr Eisteddfod trosodd."
Ond ei ddymchwel a gafodd y pafiliwn, ac ymlaen yr aeth taith yr Eisteddfod, a oedd erbyn hyn wedi arfer gyda'r patrwm o ymweld â'r gogledd a'r de bob yn ail.
Pwy sy'n cofio storm Llanrwst yn 2019 a gwyntoedd Tyddewi yn 2002? Byddai'r 'Steddfod ddim yn 'Steddfod heb boeni am ragolygon y tywydd.
Mae hen bapurau'n brawf mai'r un heriau sy'n wynebu trefnwyr yr Eisteddfod erioed. Porthmadog oedd cartref y Brifwyl yn 1872, ac mae'n amlwg bod rhai problemau wedi codi gyda safle'r Pafiliwn yn ystod yr wythnosau cyn yr Eisteddfod. A hen elyn oesol yr Eisteddfod oedd ar fai yma - y tywydd.
Meddai'r North Wales Chronicle: "Codwyd y babell gyntaf mewn amodau garw iawn, ac ar dir gwlyb; ond roedd y storm a fu bythefnos yn ôl yn brawf y dylid dewis safle arall ar ei gyfer a'i symud, ac fel gwŷr busnes, penderfynodd y pwyllgor i'w symud ar unwaith i'w safle presennol, er i'r newid hwnnw gostio £30."
Roedd rhagor o bafiliynau llai erbyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1938 yng Ngerddi Soffia, Caerdydd.
Yn ôl erthygl yn Atgofion Eisteddfod 1938 yn Rhaglen y Dydd, Eisteddfod 2008, cafwyd o'r diwedd Babell Lên deilwng o'r Eisteddfod, Theatr Tywysog Cymru at wasanaeth y ddrama, a Neuadd y Ddinas i'r Arddangosfa Celf a Chrefft.
Mae'r Pafiliwn yn wag yn y llun ochod ond roedd Pafiliwn Llangefni dan ei sang ar gyfer seremoni cadeirio Gwilym R. Tilsley ac ar gyfer coroni Dyfnallt Morgan. William Morris, cyfaill i Hedd Wyn, oedd yr Archdderwydd yn 1957.
Yn ystod seremoni Cadeirio Aled Rhys William yn Llanbedr Pont Steffan yn 1984, aeth merch yn sownd yn ochr y Pafiliwn wrth ddringo i allu gweld y Cadeirio!
Ar ôl apêl gan bapur bro Llambed, Clonc, i ddod o hyd i'r ddynes mewn siorts pinc yn 2011, datryswyd y dirgelwch ar ôl dros 25 mlynedd.
Wrth hel atgofion am y seremoni dywedodd Mari Hutchings, Mari Stone nôl yn 1984, bod ganddi atgofion da iawn am y diwrnod.
"Dwi'n cofio gweld cyfle i weld popeth am ddim," meddai wrth feddwl am yr hyn wnaeth yn 18 oed.
"Fe es i'n sownd. Roedd Urdd Sant Ioan tu mewn a'r heddlu tu allan. Bu'n rhaid galw'r frigâd dân a'r unig ffordd o fy nghael i'n rhydd oedd tynnu rhan o'r adeilad."
Na, nid syrcas ond Eisteddfod! Pafiliwn syrcas glas a melyn a gafwyd am sawl blwyddyn ond doedd y streipiau mewnol ddim yn ddelfrydol ar gyfer y system oleuadau.
Mae'r Pafiliwn Pinc yn parhau'n felys yn y cof i lawer. Ar ôl ei ymddangosiad llachar gyntaf yn Eisteddfod Abertawe yn 2006, bu'n rhoi lliw i'r Maes am ddegawd gyfan.
Meddai'r Eisteddfod yn 2006: "Mae hwn yn gyfle euraidd i godi ymwybyddiaeth o'r Eisteddfod ar y naill law ac ymgyrch cansyr y fron ar y llall.
"Mae'r Eisteddfod yn edrych ymlaen at roi cartref i'r pafiliwn pinc, yn sicr fe fydd yn denu sylw pawb fydd yn teithio ar yr M4 ac yn siwr o fod yn destun limerig neu ddau wythnos yr Eisteddfod."
Yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn 2016 y cyflwynwyd y Pafiliwn presennol. Evolution yw'r enw ar strwythur y Pafiliwn yma ac fe ddewiswyd y math yma o strwythur er mwyn cael mwy o seddi gyda gwell golygfa o'r llwyfan ac i ddatrys problemau sain y Pafiliwn Pinc.
Pan fydd y Pafiliwn presennol wedi gweld dyddiau gwell, tybed sut bafiliwn fydd nesaf?