Galw am godi ymwybyddiaeth o haint 'bwyta cnawd'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am godi ymwybyddiaeth ymhlith meddygon a'r cyhoedd am haint prin sy'n gallu lladd.
Mae Dr Marina Morgan yn un o brif arbenigwyr y DU ar drin llid madreddol y ffasgell, neu necrotising fasciitis - haint ffyrnig sy'n aml yn cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel flesh-eating bug oherwydd y ffordd y mae'n ymosod ar y corff.
Dywed Dr Morgan "nad oes digon o bobl" yn ymwybodol ohono.
Mae Scott Neil o Abertawe yn gwybod yn iawn am yr haint a'r effaith ddychrynllyd mae'n gallu ei gael.
Haint o friw bychan
Tra'n cerdded adref o'i waith fe grafodd Scott, 31, ei ben-glin, ac oherwydd y briw bychan hwnnw bu bron iddo golli ei goes, a'i fywyd.
Cafodd chwe llawdriniaeth mewn chwe wythnos ar ôl i'r briw ddatblygu'n necrotising fasciitis - haint bacterol, prin, sy'n gallu lladd ac sydd angen triniaeth ysbyty ar frys.
Dywedodd doctoriaid wrtho ei fod o fewn oriau i golli ei goes, neu hyd yn oed ei fywyd.
Mae'n un o tua 500 o bobl sy'n cael yr haint bob blwyddyn yn y DU.
Dywedodd Scott ei fod "yn swrreal" sut y gallai briw bychan beryglu ei fywyd.
Mae'n cofio bod mewn poen difrifol, yn "crio mewn poen ac yn crefu i gael mynd i'r ysbyty" ychydig ddyddiau ar ôl crafu ei ben-glin ym mis Mai 2021.
Roedd ei goes chwith wedi chwyddo i dwywaith ei maint arferol, ac roedd y boen mor ofnadwy nes iddo lewygu fel yr oedd yn cyrraedd yr ysbyty.
"Dyna'r boen waethaf yr wyf wedi'i gael erioed," meddai.
Roedd y llid wedi "bwyta i mewn" i'w gyhyrau pedryben (quadriceps) a chyhyrau ei ben-glin.
"Ro'n i mewn dipyn o anhwylder efo'r boen a'r cyffuriau lladd poen," meddai.
"Felly wnes i ddim cydnabod [y difrifoldeb] yn llawn ar y dechrau, ond fe darodd fi wedyn fod hyn yn ddifrifol ofnadwy."
Treuliodd Scott chwe wythnos yn yr ysbyty, gan dderbyn chwe llawdriniaeth - tair ohonynt i dorri "cyhyrau marw" i geisio atal y llid rhag ymledu.
Defnyddiwyd cyhyrau o'i gefn a'i goes yn lle'r rhai gafodd eu tynnu.
"Roedd hynna'n galed ofnadwy. Mi wnes i lefain dipyn go lew.
"Dwi'n cofio'r tro cyntaf y gwnaethon nhw gymryd cipolwg [ar y goes], ac roedd hi'n edrych yn hollol ddieithr ar fy nghorff."
Beth yw llid madreddol y ffasgell?
Mae'r haint yn effeithio ar y meinwe o dan y croen, a gall anaf digon diniwed beryglu bywyd os na chaiff ei drin yn gyflym.
Mae'r bacteria yn rhyddhau gwenwynau sy'n difrodi meinweoedd cyfagos.
Mae'r symptomau cynnar yn debyg i'r ffliw, ond yn fuan yn arwain at chwydu, a chwydd yn y rhan sydd wedi'i effeithio, cyn iddo ymledu drwy'r corff gan arwain at bendro a dryswch.
Mae'n gallu datblygu'n gyflym ac arwain at broblemau difrifol megis sepsis a methiant organau.
Ffynhonnell: GIG
Dywed arbenigwyr y gallai diagnosis cynnar achub bywyd rhywun, tra bod ymgyrchwyr yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
"Roedd Scott yn anlwcus iawn," meddai Dr Marina Morgan, ymgynghorydd microbioleg a haint yn Ysbyty Brenhinol Dyfnaint a Chaerwysg, ac un o arbenigwyr pennaf y DU ar drin llid madreddol y ffasgell.
Roedd yr amgylchiadau'n gorfod bod yn iawn er mwyn i'r haint ddatblygu, meddai.
'Haint ffyrnig ac annifyr'
"Er mwyn i'r llid ddatblygu mae'n rhaid bod y math arbennig o haint ymosodol yn eistedd yna'n barod i fynd i mewn i'r corff, ac yna mae'n rhaid iddo gael ffordd o fynd i mewn i'r corff, megis crafiad ar y croen.
"Os na fedr y corff gwffio'r haint - os yw eich system imiwnedd yn wan neu os nad ydy'r corff wedi gweld y math yma o facteria o'r blaen - nid oes gennych chi'r gwrthgyrff i'w ymladd.
"Y math gwaethaf o lid madreddol y ffasgell yw haint o'r enw Strep Grŵp A - sy'n fwy cyffredin fel haint tonsilitis heb lawer o symptomau.
"Mae pobl yn gallu datblygu imiwnedd iddo am eu bod wedi gweld yr haint o'r blaen. Mae'n achosi tonsilitis pan rydych yn blentyn ac nid yw'n achosi problem fawr, ac mae'r plant hynny'n tyfu i fyny efo'r gwrthgyrff, a byth yn mynd yn sâl gydag e.
"Ond mae pobl eraill sydd heb ddod ar draws yr haint o'r blaen, yna maen nhw'n cwrdd â'r haint gwirioneddol ffyrnig, annifyr, ac nid ydynt yn gallu ei gwffio."
Prif nodwedd llid madreddol y ffasgell, yn ôl Dr Morgan, yw'r boen ddychrynllyd, sy'n anghymesur â'r briw ar y croen.
"Mae hynny oherwydd bod yr haint yn ddwfn yn y meinwe," meddai.
Os nad oedd poenladdwyr cryfach a chryfach yn gweithio ar y claf, dyna pryd y dylai meddygon a chlinigwyr ddechrau meddwl "gallai hwn fod yn lid madreddol y ffasgell", a rhoi'r math cywir o wrthfiotigau.
Bydd dysgu am y cyflwr prin yn rhan o'r cwricwlwm i ddarpar feddygon yn fuan iawn, ond mae Dr Morgan, sydd o Gymru'n wreiddiol, yn dweud nad oes "digon o bobl yn gwybod am lid madreddol y ffasgell".
Bywyd newydd
Mae'r profiad wedi cael effaith ar Scott Neil yn gorfforol a meddyliol, ond dywed y DJ rhan-amser, sydd hefyd yn gerddor mewn band ac yn gweithio mewn bar yn Abertawe, ei fod wedi rhoi blas ar fywyd o'r newydd iddo.
Roedd y llawdriniaethau'n llwyddiannus, a nawr, dros flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl llawer o ffisiotherapi a gwaith caled, mae Scott yn gallu cerdded eto heb gymorth.
"Dwi'n cofio cael nosweithiau dwys iawn ar y ward, yr un ward lle collais fy mam-gu, a oedd yn brofiad trawmatig ynddo'i hun," meddai.
"Roedd fy iechyd meddwl ar ei bwynt isaf cyn hynny, felly doedd ond un ffordd o ddod trwyddo, sef wynebu'r peth.
"Roedd rhaid aros yn gryf er mwyn fy nheulu. Mewn ffordd roeddwn yn ddiolchgar i fynd drwyddo achos fe ddangosodd i mi sut i ddelio â thrawma.
"Cyn hynny roeddwn i'n claddu pob trawma yr oeddwn i'n ei ddioddef."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2022