Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Norwich
- Cyhoeddwyd
Cafodd Caerdydd ddechrau gwych i'w tymor yn y Bencampwriaeth wrth drechu clwb a oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair y llynedd.
Ychydig iawn o gyfleoedd da oedd mewn hanner cyntaf di-sgôr, ond roedd yn berfformiad addawol gan yr Adar Gleision o ystyried fod saith o'r 11 oedd yn dechrau'r gêm yn gwneud eu hymddangosiadau cystadleuol cyntaf i'r clwb.
Cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith i'r ail hanner, wrth i Romaine Sawyers sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf gydag ergyd wych i gornel isa'r rhwyd.
Gyda chwarter awr yn weddill cafodd Perry Ng ei yrru o'r maes i Gaerdydd wedi iddo gael ail gerdyn melyn, gan ei gwneud yn ddiweddglo nerfus i'r tîm cartref.
Ond ag 85 munud ar y cloc roedd Norwich i lawr i 10 chwaraewr hefyd wrth i Grant Hanley weld ei ail gerdyn melyn yntau, ac roedd hynny'n ddigon i selio'r fuddugoliaeth i Gaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022