Efydd i Emma Finucane ar ail ddiwrnod Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Dyma ail fedal efydd Emma Finucane yn y gemau eleni
Mae tîm Cymru wedi ennill eu trydedd medal yng Ngemau'r Gymanwlad Birmingham ar ôl i Emma Finucane sicrhau efydd yn y felodrom ddydd Sadwrn.
Ar ôl cael ei threchu yn y rownd gynderfynol, roedd Finucane yn herio Sophie Capewell o Loegr am fedal efydd yn y ras wib.
Llwyddodd y fenyw 19 oed o Sir Gâr i drechu Capewell o ddwy ras i un er mwyn sicrhau'r fedal.
Dyma ail fedal Finucane yn y gemau, wedi iddi sicrhau medal efydd arall gyda'r tîm gwibio ddydd Gwener.
Ellesse Andrews o Seland Newydd enillodd yr aur yn y ras wib wedi iddi hi drechu Kelsey Mitchell o Ganada yn y ffeinal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022