Medal aur gyntaf i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
James Ball (chwith) a Matt Rotherham yn dathluFfynhonnell y llun, ADRIAN DENNIS
Disgrifiad o’r llun,

James Ball a Matt Rotherham yn dathlu cipio'r fedal aur ar draul y pâr o'r Alban

Mae'r para-seiclwr James Ball wedi sicrhau medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Gyda chymorth ei beilot Matthew Rotherham, fe drechodd yr Albanwr Neil Fachie yn y ras wibio tandem.

Dyma ail fedal Ball yn y gemau, wedi iddo ddod yn ail i Fachie ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu yn y ras yn erbyn y cloc, tandem 1,000m ar gyfer athletwyr â nam ar eu golwg.

Roedd yna ragor o lwyddiant yn y felodrom - medal efydd i Eluned King yn ras bwyntiau 25 cilomedr y merched.

Ac roedd yna fedal arian hefyd i'r tîm cyfnewid treiathlon - Iestyn Harrett, Olivia Mathias, Dominic Coy a Non Stanford - a ddaeth yn ail i Loegr.

Fe wnaeth Lily Rice sicrhau medal gyntaf Cymru yn y pwll nofio drwy ddod yn drydydd yn ras dull cefn 100m S8 y merched. Gyda Medi Harris hefyd yn llwyddo i sicrhau medal efydd yn y 100m dull cefn.

Disgrifiad,

Dywedodd Medi Harris - enillydd medal efydd yn y 100m dull cefn yn y pwll ddydd Sul - ei bod "methu coelio mod i ar y podiwm gyda'r genod yna"

Roedd Cymru wedi cyrraedd cyfanswm o naw medal erbyn nos Sul.

Er i Fachie gipio'i bumed medal aur dros ei wlad yn y Gemau ar draul Ball ddydd Gwener, roedd y Cymry'n rhy gryf iddo a'i beilot Lewis Stewart brynhawn Sul, gan ennill y ddwy ras gyntaf o dair.

Ond methodd Alex Pope, gyda'i beilot Steffan Lloyd, â chipio'r fedal efydd wrth gystadlu am y trydydd safle yn erbyn Beau Wooton o Awstralia.

Dyma fedal aur gyntaf Ball yn y Gemau, a enillodd dwy fedal arian yn yr Arfordir Aur, yn Awstralia, yn 2018.

"Mae'n ryddhad yn fwy na dim byd arall, meddai.

"Mae yna lot o hyfforddi wedi bod ar gyfer hyn felly dwi jest mor hapus i gael y canlyniad ro'n i eisiau y tro hyn."

'Wedi syfrdanu'

Fe gipiodd Eluned King ei medal efydd ddiwrnod cyn ei phen-blwydd yn 20 oed.

Ffynhonnell y llun, ADRIAN DENNIS
Disgrifiad o’r llun,

Neah Evans o'r Alban, Georgia Baker o Awstralia a Eluned King o Gymru ar y podiwm

"Dwi'n wedi syfrdanu - do'n i ddim wedi disgwyl hynny," meddai.

"Mae'n dangos be allith fynd yn iawn pan rydych chi'n credu yn eich hun ac mae gyda chi rwydwaith i'ch cefnogi."

Non Stanford wnaeth rhedeg cymal olaf y ras cyfnewid treiathlon i sicrhau bod Cymru'n darfod o flaen Awstralia i gipio'r fedal arian.

"Rydan ni wedi gwirioni ond mae yna rywfaint o angrhediniaeth," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, David Ramos
Disgrifiad o’r llun,

Tîm ras cyfnewid treiathlon Cymru sef Iestyn Harrett, Olivia Mathias, Dominic Coy a Non Stanford

"Roeddan ni'n gwybod bod siawns gyda ni gyrraedd y podiwm."

'Aros amser hir'

"Mae'n gamp gwych - dwi wedi aros yn hir iawn am rywbeth fel hyn," meddai James Ball.

"Enwedig yn y sbrint, oherwydd mae pawb yn gwybod fy mod i a Neil Fachie wedi bod yn cystadlu 1-2, felly mae'n braf i brofi i fy hun os rywbeth y gallai i a Matt ei wneud.

"Roedden ni'n hapus efo dau arian yn unig - yr un peth a'r canlyniad diwethaf felly heb wella, heb waethygu - ond i orffen efo medal aur ar ben hynny, dwi mor hapus."