Aaron Ramsey yn arwyddo i Nice yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey wedi ennill 75 o gapiau rhyngwladol dros Gymru

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey wedi arwyddo i glwb Nice yn Ffrainc ar ôl gadael Juventus.

Fe wnaeth Ramsey gytuno i ddod â'i gytundeb i ben yn fuan yn Yr Eidal yr wythnos ddiwethaf ar ôl treulio chwe mis ola'r tymor ar fenthyg yn Yr Alban gyda Rangers.

Mae disgwyl i'r gŵr o Gaerffili fod yn rhan allweddol o garfan Robert Page ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Daeth Nice yn bumed yn Ligue 1 y tymor diwethaf, ac mae'n bosib y bydd Ramsey yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yng ngêm agoriadol y tymor yn erbyn Toulouse ddydd Sul.

Ramsey yw ail chwaraewr Cymru i gwblhau trosglwyddiad i Ffrainc ddydd Llun, wedi i Joe Rodon fynd ar fenthyg i Rennes am y tymor.