Caerdydd ddim am geisio i gynnal Eurovision 2023

  • Cyhoeddwyd
Aelodau band buddugol Eurovision 2022, Kalush OrchestraFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Kalush Orchestra ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Eurovision 2022 ond mae'n amhosib i Wcráin gynnal digwyddiad y flwyddyn nesaf

Ni fydd cais yn cael ei gyflwyno ar ran dinas Caerdydd i gynnal cystadleuaeth Eurovision 2023.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn y DU y flwyddyn nesaf gan nad ydy enillwyr cystadleuaeth eleni, Wcráin, mewn sefyllfa i'w lwyfannu yn sgil y rhyfel yno.

Roedd Caerdydd wedi cael ei chrybwyll fel lleoliad posib, ac fe fynegodd rheolwyr Stadiwm Principality awydd i gynnal yr achlysur.

Ond mewn datganiad ar y cyd ddydd Mercher, dywedodd Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality na fyddai'n bosib cyflwyno cais.

Dywed y datganiad y byddai rhoi cartref i'r gystadleuaeth yn golygu canslo nifer o ddigwyddiadau sydd eisoes wedi eu trefnu yn y stadiwm y gwanwyn nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwyr Stadiwm Principality wedi dweud y byddai cynnal Eurovision 2023 wedi bod 'yn binacl ar ddau ddegawd o ddigwyddiadau'

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud bod gan Gaerdydd "record gryf iawn o ran cynnal digwyddiadau sylweddol", ac y byddai'r stadiwm wedi bod yn ddewis "naturiol ar gyfer cynhyrchiad mor nodedig".

Ond byddai cymhlethdodau'r gystadleuaeth wedi arwain at orfod canslo digwyddiadau eraill, fel y Pencampwriaethau Rygbi Cadair Olwyn Ewropeaidd.

Bu trafodaethau gyda'r BBC ynghylch opsiynau eraill, ond ni fu'n bosib i gytuno ar "ddatrysiad ymarferol".

Y DU gafodd wahoddiad i gynnal cystadleuaeth y flwyddyn nesaf wedi i'w hymgeisydd, Sam Ryder, ddod yn ail i Wcráin eleni.

Mae 12 o ddinasoedd wedi eu crybwyll fel cartref posib iddi yn 2023, ac mae Llundain, Manceinion a Sheffield wedi datgan bwriad i estyn gwahoddiad.

Pynciau cysylltiedig