Stadiwm Principality yn awyddus i gynnal Eurovision
- Cyhoeddwyd
Byddai cynnal cystadleuaeth Eurovision yn binacl ar ddau ddegawd o ddigwyddiadau, yn ôl rheolwyr Stadiwm Principality, Caerdydd.
Mewn ymateb i'r posibilrwydd y bydd y gystadleuaeth yn dod i'r DU y flwyddyn nesaf, a bod y stadiwm yn un o'r lleoliadau dan sylw, dywedodd llefarydd y byddent yn croesawu'r cyfle i'w llwyfannu.
Yn draddodiadol y wlad sy'n ennill y gystadleuaeth sy'n cael y fraint o'i chynnal y flwyddyn wedyn.
Wcráin oedd yr enillwyr eleni, ond yn dilyn "asesiad trylwyr ac astudiaeth ddichonoldeb" mae trefnwyr y gystadleuaeth wedi penderfynu na fydd modd ei chynnal hi yno yn 2023.
Gan mai'r DU ddaeth yn ail, mae'r BBC mewn trafodaethau gyda'r Undeb Darlledu Ewropeaidd i gynnal y gystadleuaeth yma.
Ond mae Wcráin yn anghytuno gyda'r penderfyniad ac yn bwriadu apelio.
'Gwlad y Gân'
Yn y cyfamser dywedodd llefarydd ar ran Stadiwm y Principality: "Mae gennym 20 mlynedd o hanes o gynnal digwyddiadau cerddoriaeth a chwaraeon mwya'r byd, a byddai ychwanegu Eurovision, cystadleuaeth gerddoriaeth fwya'r byd sy'n annwyl gan lawer, yn binacl ar y ddau ddegawd diwethaf.
"Rydym yn genedl o gantorion, Gwlad y Gân, ac nid oes sŵn i guro Stadiwm Principality dan ei sang."
Mae tagfeydd traffig wedi bod yn nodwedd o rai digwyddiadau mawr yn y stadiwm yn ddiweddar, gan gynnwys cyngherddau gan y canwr Ed Sheeran ym mis Mai.
Ond dywedodd rheolwyr y stadiwm eu bod yn credu y gallai Caerdydd gynnal Eurovision yn ddi-drafferth.
"O gofio'n hanes a'n profiad fel arena aml-ddigwyddiad, rydym yn hyderus y gallwn gynnig digwyddiad nodedig, ac os yw'r DU dan ystyriaeth ar gyfer 2023, byddwn yn croesawu'r cyfle i drafod hynny mewn manylder."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022