Dafydd Elis-Thomas: 'Dim dewis ond annibyniaeth erbyn hyn'

  • Cyhoeddwyd
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Gwisgo'n briodol: Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas ei sylwadau ar Radio Cymru ddydd Mercher

Annibyniaeth i Gymru ydy'r cam nesaf i'r wlad, yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio yn fyw o faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru taw annibyniaeth yw'r unig opsiwn erbyn hyn.

"Mae rhaid i hunan-benderfyniad cenedlaethol fod yn wir am Gymru, fel pob wlad arall," meddai mewn cyfweliad â Bethan Rhys Roberts.

Dywedodd wrth y rhaglen ei fod yn credu y bydd Yr Alban yn dewis i adael y DU yn ei oes ef.

Mae'n dadlau y bydd yn rhaid i Gymru ddilyn unwaith mae hynny'n digwydd.

"Os ydy'r Alban yn mynd am annibyniaeth, mae rhaid i Gymru fynd am y fath o annibyniaeth sy'n briodol i ni."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y rali annibyniaeth ddiweddaraf ei chynnal yn Wrecsam ym mis Mehefin

Yr Arglwydd Elis-Thomas oedd AS Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd rhwng 1999 a Mai 2021 pan benderfynodd nad oedd am sefyll eto.

Roedd hefyd yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Lafur Cymru tan iddo adael Bae Caerdydd y llynedd.

Mae ei sylwadau'n mynd gam ymhellach na'r hyn ddywedodd fis Chwefror y llynedd.

Awgrymodd bryd hynny bod angen "dwysáu trefniadau datganoli yng Nghymru ond nid rŵan yw'r amser cywir i gynnal refferendwm ar annibyniaeth".

Pynciau cysylltiedig