Protest yn erbyn cynllun ehangu chwarel yn Ninbych
- Cyhoeddwyd
Mae rhyw 70 o bobl wedi cynnal protest yn Ninbych yn erbyn cynlluniau i ymestyn chwarel galchfaen ar gyrion y dref.
Cafodd cais swyddogol gan gwmni Breedon Southern Ltd ei gyflwyno i Gyngor Sir Dinbych fis Mehefin.
Mae'r chwarel yn cynhyrchu cerrig mân a chalch amaethyddol, ac er mwyn datblygu'r gwaith mwyngloddio, mae'r datblygwyr eisiau ymestyn ffin y chwarel dros ddau gae cyfagos gan ailgyfeirio llwybr cyhoeddus sydd ar hyn o bryd mynd drwy goedwig.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal, ac fe gafodd cynlluniau cychwynnol cwmni Breedon eu harddangos yn neuadd y dref y llynedd.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys ail-leoli'r llwybr cyhoeddus a chynlluniau gwyrdd i blannu coed.
Mewn datganiad mae llefarydd ar ran y cwmni yn dweud "eu bod nhw fel cyflogwr lleol, wedi rhoi sawl cyfle i bobl leol drafod a chysylltu wrth i'r cwmni baratoi'r cynlluniau".
Petai'r cynlluniau'n cael sêl bendith, mae'r ymgyrchwyr yn dweud y bydd y datblygiad yn cyfyngu'r mynediad i lwybr cerdded poblogaidd ac yn dinistrio bywyd gwyllt.
Hefyd, mae pryderon wedi codi am gynnydd posib mewn sŵn o'r ffrwydradau yn y chwarel, gostyngiad yn ansawdd yr aer ac agosrwydd y chwarel i gartrefi pobl.
Dywedodd Yvonne Lloyd, un o drefnwyr y brotest: "Dwi wedi cerdded y caeau hyn mor hir ag gallai gofio.
"Mae bywyd gwyllt fel barcudiaid coch, ystlumod, tylluanod brych, i enwi 'mond rhai,yn cael ei warchod. Mae'n anghyfreithlon achosi unrhyw fath o aflonyddwch i'r adar hyn.
"Mae pobl yn cwyno am ddifrod i'w heiddo pan mae ffrwydrad nawr, ac mae'r llwch a'r llygredd yn niweidiol i iechyd pobl.
"Yn ystod y pandemig cerddodd gymaint o bobl ar hyd y caeau yma, roedden nhw mor bwysig i iechyd a lles, a nawr gyda'r argyfwng costau byw mae'r mannau gwyrdd hyn yn bwysicach fyth."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Dinbych: "Mae'r cais cynllunio yn mynd drwy'r broses ffurfiol ar hyn o bryd. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor gan roi sylw i unrhyw ystyriaethau cynlluniau perthnasol sy'n cael eu codi."
Mae cannoedd o drigolion Dinbych yn cefnogi'r grŵp gweithredu lleol SOGS Denbigh SAVE OUR GREEN SPACES ac mae'r sylwadau ar dudalen Facebook y grŵp yn dangos cryfder y teimladau.
Mae'r ymgyrch yn erbyn cynlluniau'r chwarel wedi cael cefnogaeth Cyngor Tref Dinbych ac Aelod o'r Senedd Gogledd Cymru Llyr Gruffydd ynghyd ag Aelod o'r Senedd ac AS Dyffryn Clwyd, Gareth Davies a Dr James Davies.
Mae'r cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr, Iolo Williams hefyd wedi lleisio ei wrthwynebiadau ar wefannau cymdeithasol. "All hyn ddim cael ei ganiatáu," ysgrifennodd ar ei gyfrif Twitter.
Dywedodd wrth Newyddion S4C bod hi'n bwysig "mod i'n ychwanegu fy llais i helpu pobol leol, gan obeithio gallwn ni daro'n ôl ac achub y coed yma".
Ychwanegodd, mai'r "ateb syml" os am fynd i'r afael ag effeithiau cynhesu byd-eang "ydi peidio torri hen goes, ac ella bod hi'n amser i Llywodraeth Cymru ddod â deddfa' i rym sydd llawer mwy llym, sydd yn diogelu coed fel hyn fel bod hi'n hollol anghyfreithlon cyffwrdd â nhw".
Mae Mair Jones, sy'n byw yn Ninbych, yn deud fod synnwyr cymunedol yn gryf yn Ninbych, ac mi roedd gweld gymaint wedi dod at ei gilydd i brotestio ddydd Gwener yn "cynhesu'r galon".
"Mewn cyd-destun economaidd caled, 'rwy'n hynod falch o'r ffordd mae fy nghymuned wedi codi ei llais yn erbyn estyniad niweidiol y chwarel yma yn Ninbych," meddai.
"Mae Cwmni Breedon efo'r modd ariannol i brynu ymgynghorwyr i ddallu ni efo'u geiriau mawr a chymhleth. Ond efo ni y mae'r dadleuon triw a chyfiawn."
Ychwanegodd: "Na i ddinistrio natur a'n hamgylchedd gwerthfawr. Na i fwy o ddinistrio ein tai a'n hiechyd. Gobeithio yn fawr y gwnaiff ein cynghorwyr ar y pwyllgor cynllunio wrando arnon ni."
Fel rhan o'r cyfnod ymgynghori statudol, mae gwahoddiad i bobl anfon eu sylwadau i Gyngor Sir Dinbych erbyn 23:59 ar 6 Awst.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: "Gall pobl parhau i wneud sylwadau ar ôl Awst y 6ed a tan i'r Pwyllgor Cynllunio cwrdd i benderfynu ar y cais."
Mae disgwyl penderfyniad ar y cais cyn diwedd y mis.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021