Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Eastleigh

  • Cyhoeddwyd
Elliot Lee
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Elliot Lee ddwywaith ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Dreigiau, er iddo dechrau'r gêm o'r fainc

Gôl hwyr oedd achubiaeth Wrecsam wrth sicrhau triphwynt gwerthfawr ar ddiwrnod agoriadol y tymor.

Roedd Eastleigh wedi mynd ar y blaen wedi i gamgymeriad y golwr, Mark Howard, agor y drws i George Langston wedi 14 munud.

Ond Elliot Lee oedd arwr y Cae Ras gyda'i ddwy gôl - wedi 72 ac 85 munud - yn troi'r gêm ar ei phen.

Wnaeth Lee ond ymuno a'r chwarae gydag awr wedi mynd ar y cloc - ond roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy.