Y Gynghrair Genedlaethol: Yeovil 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal oedd hi i Wrecsam oddi cartref yn erbyn Yeovil brynhawn Sadwrn.
Fe lwyddodd Paul Mullin, chwaraewr y flwyddyn yn y Gynghrair Genedlaethol y tymor diwethaf, i roi Wrecsam ar y blaen yn gynnar.
Ond methu a chyrraedd cefn y rhwyd wnaeth ei gyd-chwaraewyr, Ellior Lee ac Ollie Palmer, yn ddiweddarach.
Daeth gôl wedyn i Linton o Yeovil i ddod â'r ddau dîm yn gyfartal.
Fe enillodd y tîm cartref eu pwynt cyntaf y tymor hwn, tra bod gan Wrecsam bedwar o'u dau gêm agoriadol.