Jonathan Edwards i gael cynrychioli Plaid Cymru eto

  • Cyhoeddwyd
Jonathan EdwardsFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jonathan Edwards wedi bod yn eistedd fel aelod annibynnol, er iddo gael ailymuno â'r blaid

Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru a gafodd rybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig yn cael cynrychioli'r blaid unwaith eto yn San Steffan.

Roedd Jonathan Edwards wedi bod yn eistedd fel aelod annibynnol, er iddo gael ailymuno â Phlaid Cymru, ond mae bellach wedi cael chwip y blaid yn ôl.

Daw er i Bwyllgor Gwaith y blaid argymell fis diwethaf na ddylai gael dychwelyd i grŵp seneddol.

Ond mae'r BBC yn deall fod y blaid wedi derbyn cyngor cyfreithiol y byddai ei atal o'r grŵp yn San Steffan n "anghyfreithlon", ac felly nad oedd ganddyn nhw opsiwn ond ei groesawu 'nôl.

Hollti'r blaid

Mae hollt wedi bod o fewn y blaid am beth i'w wneud gyda Mr Edwards, a gafodd y rhybudd gan yr heddlu ddwy flynedd yn ôl.

Fe wnaeth yr hollt ffurfio yn y blaid fis diwethaf ar ôl i banel disgyblu roi caniatâd i Mr Edwards ailymuno â'r blaid.

Ond roedd Pwyllgor Gwaith y blaid wedi argymell na ddylai'r aelod ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gael dychwelyd i grŵp seneddol.

Ar y pryd dywedodd y blaid nad oedd y broses fewnol o benderfynu ar aelodaeth Mr Edwards o'r grŵp seneddol wedi dod i ben.

Cafodd y sefyllfa ei feirniadu gan aelodau lleol o'r blaid, oedd eisiau i Mr Edwards gael ei groesawu yn ôl i grŵp Plaid Cymru yn y San Steffan, tra bod eraill wedi dweud na ddylai fod wedi cael ailymuno â'r blaid o gwbl.

Fe wnaeth argymhelliad y pwyllgor gwaith hefyd arwain at ymddiswyddiad cadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones, oedd yn anghytuno â'r awgrym y dylai Mr Edwards barhau fel AS annibynnol.

Ond roedd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud y dylai Mr Edwards gael ei wahardd o'r blaid "os ydyn nhw o ddifri' am stampio allan misogynistiaeth a thrais yn y cartref".

Ffynhonnell y llun, HoC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Edwards ei fod "eisiau ymddiheuro'n ddiamod eto am y weithred a arweiniodd at fy ngwaharddiad"

Mewn datganiad dywedodd Mr Edwards: "Rydw i eisiau ymddiheuro'n ddiamod eto am y weithred a arweiniodd at fy ngwaharddiad a mynegi fy edifeirwch dwfn am y boen rydw i wedi'i achosi."

Dywedodd fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o adlewyrchu dwfn", a'i fod wedi cofrestru ar gwrs ymwybyddiaeth trais domestig sydd wedi "fy helpu i ddeall yr effaith y cafodd fy ngweithred ar eraill".

Ychwanegodd fod Plaid Cymru wastad wedi cefnogi hawliau menywod, a'i fod yn "edifar fod fy ngweithredoedd i wedi cymryd y ffocws oddi ar y gwaith pwysig yma".

'Edifeirwch diffuant'

Cafodd Mr Edwards ei wahardd o'r blaid ym mis Gorffennaf 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu.

Ar y pryd dywedodd ei fod yn "wir ddrwg ganddo" a'i fod yn edifar y digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".

Dywedodd datganiad ar ran gwraig Mr Edwards ei bod "wedi derbyn ymddiheuriad fy ngŵr".

Roedd y panel disgyblu wedi dweud fod eu penderfyniad wedi cymryd i ystyriaeth "edifeirwch diffuant" Mr Edwards a'i "gyfnod hir o hunan fyfyrdod a dysgu".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, Beca Brown fod y blaid yn adolygu sut allen nhw sicrhau nad oedd ganddyn nhw unrhyw "ddiwylliant o gasineb at ferched"

Ond mae BBC Cymru yn deall mai cyngor cyfreithiol oedd yn gyfrifol am benderfyniad y pwyllgor gwaith i wneud tro pedol, a'i ganiatau i eistedd fel AS.

Fis diwethaf roedd y pwyllgor wedi argymell na ddylai Mr Edwards gael dychwelyd i grŵp seneddol, ond wedi hynny cafodd y blaid gyngor cyfreithiol oedd yn dweud bod y safbwynt yna'n "anghyfreithiol".

'Cynnal y safonau uchaf'

Dywedodd olynydd Alun Ffred Jones fel cadeirydd, Beca Brown, mewn datganiad nos Fercher y bydd y blaid cynnal "adolygiad annibynnol i adnabod y camau sydd eu hangen er mwyn i'r blaid fod yn wirioneddol rydd o ddiwylliant o gasineb at fenywod".

"Roedd yr egwyddor o ganiatáu i aelodau o'r pwyllgor sy'n rheoli'r blaid drafod mater o'r fath arwyddocâd yn bwysig tu hwnt," meddai.

"Ar ôl derbyn cyngor gweithdrefnol pellach mae Plaid Cymru yn awr wedi hysbysu Mr Edwards bod y prosesau mewn perthynas â'i aelodaeth o grŵp San Steffan wedi dod i derfyn. Mae'r chwip wedi'i hadfer i Mr Edwards.

"Bydd PGC Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru yn cynnal y safonau uchaf a ddisgwylir ganddynt."

'Heb newid fy meddwl'

Mewn erthygl ar gyfer gwasanaeth newyddion Nation.Cymru dywedodd AS Arfon, Sian Gwenllian ei bod hi ymhlith yr aelodau Plaid Cymru oedd wedi gwrthwynebu rhoi'r chwip yn ôl i Jonathan Edwards.

Dywedodd bod hi "wedi dod i'r amlwg nad ydy prosesau disgyblu'r blaid yn gwahaniaethu digon rhwng aelodau cyffredin ac aelodau sydd wedi eu hethol i safleoedd o ddylanwad", a bod Mr Edwards felly'n gallu hawlio'i deitl fel AS Plaid Cymru'n awtomatig yn dilyn cyhoeddiad y panel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Gwenllian yn gwrthwynebu caniatáu i Jonathan Edwards gynrychioli Plaid Cymru eto fel AS

"Dyna'r sefyllfa gyfansoddiadol y mae'n rhaid ei derbyn ond dydy fy safbwynt i heb newid," ysgrifennodd.

Dywedodd bod yna le i faddau unigolion am eu camgymeriadau ond bod aelodau etholedig "yn lysgenhadon i'n plaid ar y llwyfan genedlaethol a rhyngwladol", a ni ddylai gwleidydd etholedig sydd wedi "niweidio'n ddifrifol... hygrededd ac enw da ein plaid" ei chynrychioli mwyach.

Mae hi'n galw am adolygu rheolau sefydlog y blaid "i adlewyrchu safbwyntiau" pwyllgor gwaith etholedig, ac i adeiladu argymhellion adroddiad yr ysgrifennodd cyn y pandemig i fynd i'r afael â chasineb at fenywod o fewn y blaid.

Dylai hynny, meddai, "gynnwys hyfforddiant statudol sy'n tanlinellu natur gwirioneddol ddifrifol trais domestig, ei effaith ar fenywod a phlant, a'i bwysigrwydd gwleidyddol fel rhan o'r frwydr barhaus i ddod ag anghydraddoldeb rhywedd i ben yng Nghymru".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Dafydd Iwan

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Dafydd Iwan

'Rhaid cymryd trais domestig yn gwbl o ddifri'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Iau dywedodd un o ASau Plaid Cymru yn Senedd Cymru bod y sefyllfa'n un "cwbl, cwbl trist ac anffodus".

Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd Mabon ap Gwynfor ei fod yn "anghyfforddus yn trafod materion yn ymwneud â theulu ac unigolion fel yma yn gyhoeddus oherwydd mae rhaid cofio bod yna deulu yng nghanol hyn i gyd".

Disgrifiad o’r llun,

Does dim dewis ond ymddiried ym mhrosesau'r blaid, medd Mabon ap Gwynfor

Ond dywedodd bod y blaid "ar ddiwedd y dydd... wedi dod i benderfyniad drwy'r prosesau mewnol... ac mae'n rhaid i fi osod fy ffydd ym mhrosesau'r blaid achos doeddwn i ddim yn rhan o'r drefn honno".

Ychwanegodd: "Mae datganiad y cadeirydd wedi awgrymu fod 'na broblemau yn y prosese hynny, sydd angen edrych ar, ac fydd rhaid i'r blaid fynd i'r afael â'r rheiny.

"Ond y wers bwysig, y tu hwnt i Blaid Cymru, ydi bod yn rhaid i ni gymryd y mater yma o drais domestig yn gwbl, gwbl o ddifri'.

"Does yna ddim lle i drais yn erbyn unrhyw un, ond 'da'n ni'n gwybod bod menywod yn diodde' mwy nag eraill, felly, does 'na ddim lle i drais yn erbyn menywod o gwbl.

"Mae'n rhaid i bawb ddysgu gwersi o hyn, a sicrhau bod ni'n datblygu cymdeithas sy'n glir o'r trais hwnnw."

'Gallwn dynnu llinell dan hwn'

Mae rhai aelodau o Blaid Cymru yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi croesawu'r penderfyniad i adfer statws Mr Edwards fel AS dros y blaid.

Dywedodd Betsan Jones, cynghorydd lleol a chadeirydd y blaid yn yr etholaeth, ei bod hi'n "hapus iawn".

Ychwanegodd: "Dwi'n ei gefnogi a dwi'n bles bod e wedi cael y chwip wedi ei rhoi nôl iddo, a dwi'n credu gallwn ni dynnu llinell dan hwn."

Dywedodd cynghorydd lleol arall, Hazel Evans, bod Mr Edwards yn AS "gwych".

"Bydd pobl yn falch i glywed bod maddeuant i gael ganddom ni yn y blaid," meddai.