Ffoaduriaid o Wcráin yn uno yng ngogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Teuluoedd yn cwrdd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd teuluoedd gyfle i gwrdd, rhannu profiadau a dysgu am hanes a threftadaeth yr ardal

Lai na chwe mis ers dechrau'r rhyfel yn Wcrain - a miloedd o bobl wedi ffoi i Gymru - mae teuluoedd sydd wedi ymgartrefu yn y gogledd wedi cael cyfle i ddod ynghyd.

Roedd pryder nad oedd rhwydwaith hawdd i Wcraniaid yng Nghymru gysylltu â'i gilydd, yn enwedig yn ne Gwynedd gyda nifer ar wasgar ers symud.

Dyna pam aeth Gareth Roberts o Drawsfynydd ati, a rhai o'i deulu sydd o Wcráin, i drefnu diwrnod yn Yr Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, er mwyn rhoi'r cyfle i'r ffoaduriaid gwrdd â'i gilydd a dysgu am hanes a threftadaeth yr ardal.

Yn ôl Mr Roberts, mae 'na bryder y gallai pobl anghofio am sgil effaith y rhyfel wrth i straeon eraill ddominyddu'r penawdau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ddiwrnod braf yn Yr Ysgwrn a theuluoedd wedi mwynhau'r cyfle i gwrdd

Wrth gyrraedd Yr Ysgwrn fe gafodd y teuluoedd eu croesawu gyda bwyd traddodiadol gan wraig Gareth Roberts, Nataliia, sy'n wreiddiol o Wcráin.

Roedd yn gyfle i gael sgwrs anffurfiol gyda theuluoedd eraill a thrafod eu profiadau ers cyrraedd Cymru.

Wrth i'r oedolion drafod, fe gafodd yr ardd gyfagos ei llenwi â chwerthiniad plant fu'n taflu pêl a chwarae gemau, cyfle am ysbaid.

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn newid byd i bob un o'r teuluoedd sydd wedi gwneud y daith hir a phell o Wcráin i Gymru.

Gobaith Gareth Roberts ydy gwneud ymgartrefu yma rywfaint yn haws.

"Mae gena' i deulu sydd wedi ffoi o Wcráin yn byw efo fi yma a doedd dim llawer o bethau oedd yn digwydd yn ne Gwynedd i groesawu ffoaduriaid felly y bwriad oedd dod â rhai at ei gilydd yma i'r Ysgwrn," meddai.

"Mae'n anodd iddyn nhw dwi'n siŵr, alla i ddim dychmygu yn union sut mae pethau iddyn nhw".

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Gareth Roberts a'i wraig Nataliia - sydd o Wcráin - wedi ymgartrefu yng Nghymru ers ffoi o'r rhyfel

Mae Mr Roberts yn dweud bod ei wraig weithiau'n "ddigalon" ac wrth ofyn pam, mae'n clywed hanesion ffrindiau'r teulu sydd yn dal i wynebu erchyllterau'r rhyfel yn Wcráin.

"Rhaid inni fod yn sensitif iawn a dyna pam 'dan ni yma yn Yr Ysgwrn wrth gwrs."

Ers dechrau'r rhyfel mae'r straeon personol wedi ennyn sylw'r byd ond yn ôl Mr Roberts, wrth i straeon eraill fel effaith costau byw ddomiynyddu'r penawdau, mae 'na bryder fe allai pobl yng Nghymru anghofio yr hyn sy'n digwydd yn nwyrain Ewrop.

"Mae 'na bosibrwydd fydd pethau'n gwaethygu," meddai.

"Mae'n bosib fydd pobl yn y wlad yn newid eu safbwynt tuag at ffoaduriaid ond dyna pam mae'n bwysig i ni beidio anghofio, i ni godi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod y rhyfel yn parhau a bod y bobl yma yng Nghymru yn dibynnu arnom ni i'w cefnogi nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Yr Ysgwrn

Wedi cyfle i ddod i adnabod ei gilydd, fe gafodd y teuluoedd y cyfle i fynd draw am Yr Ysgwrn a chael eu tywys o gwmpas hen dŷ Hedd Wyn sydd hyd heddiw yn yr un cyflwr ag y gafodd ei adael.

Wrth gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, ac o'r Saesneg yna i'r Wcraneg, fe gafodd y teuluoedd y cyfle i glywed am hanes y bardd Hedd Wyn a chlywed hanes y Gadair Ddu.

Yn ôl Mr Roberts, mae'r Ysgwrn a Hedd Wyn ei hun yn gynrychiolaeth o heddwch; heddwch mae bob teulu o Wcráin yn ymbil am weld yn eu mamwlad sydd ar brydiau, yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd.